03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Argymhelliad fwrw ymlaen gydag ysgol 4-18 oed newydd yn Llanfair Caereinion

MAE Cyngor Powys wedi dweud y gallai cynlluniau i uno dwy ysgol yng ngogledd y sir i greu ysgol pob oed newydd gael eu gweithredu pe bai’r Cabinet yn rhoi sêl bendith yr wythnos nesaf.

Mae’r Cyngor am sefydlu ysgol pob oed newydd yn Llanfair Caereinion, a byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy gau Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion a sefydlu ysgol newydd 4-18 oed ar y safleoedd presennol o fis Medi 2022.

Bydd y cynigion yn helpu’r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg a fydd yn gwella profiad a hawl dysgwyr. Cymeradwywyd y strategaeth ym mis Ebrill 2020.

Yn gynharach eleni, rhoddwyd caniatâd gan y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol yn cynnig y newid hwn. Cyhoeddwyd yr hysbysiad ym mis Chwefror.  Yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, derbyniwyd 31 o wrthwynebiadau.

Ar ddydd Mawrth, 18 Mai, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebu a gofynnir iddo gymeradwyo’r cynnig i uno Ysgol GG Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion er mwyn sefydlu ysgol pob oed newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo:

“Rydym wedi ymrwymo i gyflawni cynnig gwell i ddysgwyr ar gyfer plant a phobl ifanc Powys trwy ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys. Rwy’n credu y bydd ein cynnig ar gyfer ysgolion yn Llanfair Caereinion o fudd i ddisgyblion a staff dysgu.”

“Mae’r cynnig hwn yn ymwneud yn benodol â sefydlu ysgol pob oed yn Llanfair Caereinion. Fodd bynnag, mae’r prif faterion a godwyd yn y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ymwneud â’r angen am ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.

“Cytunodd y Cabinet ym mis Chwefror i gyflymu’r trafodaethau rhwng cynrychiolwyr y ddwy ysgol a’r gymuned i edrych ar ffyrdd i ddatblygu a chyfoethogi’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Llanfair Caereinion ac i gynnwys yr holl ysgolion sy’n bwydo dalgylch yr ysgolion yn y trafodaethau hyn.  Mae’r trafodaethau cychwynnol wedi digwydd.

“Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig i sefydlu ysgol pob oed yn Llanfair Caereinion, byddai’r trafodaethau hyn yn parhau gyda’r corff llywodraethu dros dro ac arweinyddiaeth yr ysgol newydd er mwyn symud yr ysgol ymlaen ar hyd y continwwm iaith.  Mae’r ysgolion sy’n bwydo’r dalgylch a phartneriaid eraill yn hanfodol i helpu i ddatblygu’r weledigaeth hon.

“Byddaf yn argymell i’r Cabinet ei fod yn cymeradwyo’r cynnig i sefydlu ysgol pob oed yn Llanfair Caereinion.”

%d bloggers like this: