04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arolwg i ddeall effaith Covid-19 ar breswylwyr

MAE tîm Profi, Olrhain, Diogelu Sir Gaerfyrddin yn cynnal arolwg i ddeall yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar breswylwyr Sir Gaerfyrddin.

Mae’r tîm am gasglu gwybodaeth am sut mae pobl wedi bod yn ymdopi ac yn teimlo drwy gydol y pandemig a sut mae Covid-19 wedi effeithio ar eu bywydau.

Bydd y wybodaeth yn helpu’r cyngor i ddeall anghenion pobl Sir Gaerfyrddin wrth gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â phreswylwyr dros y ffôn ac yn gofyn iddynt a ydynt yn fodlon cymryd rhan mewn arolwg byr na ddylai gymryd mwy na 10 munud (tua 5 munud fel arfer). Mae’r arolwg yn wirfoddol ac os nad ydynt am gymryd rhan, ni fydd neb yn cysylltu â nhw eto.

Os na fydd unigolyn yn ateb yr alwad, bydd y galwr yn rhoi cynnig arall arni ond dim mwy na dwywaith.

Gofynnir cwestiynau i breswylwyr am yr effaith y mae dal Covid-19 wedi’i chael ar yr unigolyn ar y pryd ac yn y tymor hir, dychwelyd i’r gwaith (lle bo’n berthnasol), unrhyw gymorth gan asiantaethau allanol y gallai fod ei angen arnynt, os ydynt wedi cael y brechlyn ac unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â Covid-19 megis colli swydd ac iechyd meddwl. Os nad yw preswylydd yn teimlo’n gyfforddus yn ateb cwestiwn, nid oes rhaid iddo wneud hynny.

Os bydd unigolyn yn gofyn am wybodaeth am unrhyw un o’r materion a godwyd yn yr alwad, gall y tîm ei gyfeirio at wasanaethau priodol. Gellir darparu’r manylion hyn yn ystod yr alwad ffôn neu drwy e-bost yn dilyn yr alwad.

I gadarnhau bod y galwr yn ddilys mae’r tîm yn hapus i anfon e-bost at yr unigolyn o gyfeiriad e-bost gweithiwr Sir Gaerfyrddin i roi sicrwydd iddo. Fel arall, gall yr unigolyn ffonio’r cyngor a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Profi, Olrhain, Diogelu a all gadarnhau bod y galwr yn ddilys.

 

 

 

%d bloggers like this: