04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arolwg o ddarpariaeth toiledau y Cyngor

GOFYNNIR i bobl am eu sylwadau ynghylch strategaeth toiledau ddrafft y Cyngor.

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol.

Mae’r strategaeth ddrafft wedi’i llunio yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg cyhoeddus y llynedd o ran darpariaeth toiledau ledled y sir.

Bellach, gall aelodau’r cyhoedd weld pa gamau y mae’r cyngor am eu rhoi ar waith yn seiliedig ar eu hadborth.

Mae’r Cyngor yn gweithredu nifer o gyfleusterau cyhoeddus ledled y Sir ac er bod gan awdurdodau lleol y pwerau i ddarparu toiledau, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wneud hynny.

Gan fod llai o adnoddau, mae’r strategaeth yn nodi ymagwedd strategol tymor hir y cyngor o ran darpariaeth toiledau gan amrywiaeth o ddarparwyr ledled y Sir.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ynghylch a allai cwmnïau cyhoeddus a phreifat wneud mwy i helpu i sicrhau bod cyfleusterau toiled ar gael, ac ynghylch datblygu cynllun partneriaeth gymunedol.

Mae hefyd yn ystyried darparu toiledau ‘changing places’ i ddefnyddwyr anabl; yn ystyried a ddylid annog trefnwyr digwyddiadau i ddarparu toiledau dros dro; ac yn ystyried codi tâl ar gyfer defnyddio cyfleusterau er mwyn atal camddefnydd a fandaliaeth.

Gwahoddir pob preswylydd, busnes a sefydliad i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sef arolwg byr ar-lein, sy’n cael ei gynnal tan 12 Mai, 2019.

Ewch i’r adran ymgynghori, neu gofynnwch am gopi papur yn unrhyw un o ganolfannau gwasanaeth cwsmeriaid y cyngor.

Bydd adborth yn cael ei ystyried cyn bod Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei chyhoeddi’n derfynol.

12 Mai, 2019

%d bloggers like this: