03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arweinwyr pob cyngor yng Nghymru yn galw am ymgyrch etholiadol teg a pharchus

MAE arweinwyry cynghorau Cymru wedi cyhoeddi wneud datganiad ar y cyd yn galw ar gynghorwyra’r holl ymgeiswyr yn etholiadau lleol mis Mai i ymrwymo i ymgyrch etholiadol teg a pharchus:

Dwed y datganiad:

‘Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd a’r gamdriniaeth yr ydym yn ei gweld yn ein mewnflychau e-bost, ar ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n ei gweld neu’n ei chlywed arein strydoedd, neu’n waeth na hynny, yn ein cartrefi.

Fe ddylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau o ran polisi neu flaenoriaethau, nid sarhad neu anoddefgarwch, camwybodaeth neu gasineb at fenywod, gwahaniaethu neu rwyg.

Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl amrywiol i ystyried sefyll ar gyfer etholiad, mae angen i ni roi tawelwch meddwl a chefnogi’rymgeiswyrhynnysy’n newydd ifywyd democrataidd, y rhai hynny sy’n ymwybodol eu bod yn y lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae etholiadau’r cyngor yn ymwneud a phobl sydd eisiau cyfrannu a sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau.

Gwaeth a’r modd, rydym ni’n gweld nifer gynyddol o gyn ghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a’u dych ryn.

Yn ogystal a bod yn gwbl annerbyniol, mae’rymddygiad hwn yn tanseilioegwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod.

Rydym ni’n ymdrech u i drin pawb a chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, tel arweinwyr, rydym ni’n sefyll gyda’n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

Rydym ni’n addocymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy’n seiliedigarymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personal a difenwol yn erbyn unigolion.

Rydym ni’n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd ar y gweill i wneud yr un peth. Yn ogystal, fe fyddwn ni’n amlygu’n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amhriodol o’rfath ac ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran cam-drin. Maegan bob un ohonom ni’rhawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiad neu gamdriniaeth.

Mae unrhyw ymddygiad amhriodol – naill ai ar lafar, yn gorfforol neu’n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol-yn gwbl annerbyniol, a bydd camau’n cael eu cymryd os bydd angen.

Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhopeth rydych chi’n ei ddweud ac yn ei wneud.’

%d bloggers like this: