08/20/2022

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arweinydd Cyngor Caerdydd yn datgelu strategaeth Gryfach, Decach a Gwyrddach

MAE Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi cyflwyno Rhaglen Lywodraethu newydd ei weinyddiaeth i gasgliad o fwy na 100 o arweinwyr busnes, dinesig a’r sector cyhoeddus.

Dywedodd:

“Prifddinas Gryfach, Decach, Werddach – dyna’r wobr i’w hennill, os gallwn gyfuno ein hymdrechion a gweithio gyda’n gilydd.”

Mewn cyfarfod yng Ngwesty Parkgate y ddinas, dan gadeiryddiaeth Cyngor Ieuenctid Caerdydd, amlinellodd y delfrydau ‘Cryfach, Tecach a Gwyrddach’ a fydd yn llywio penderfyniadau’r awdurdod a’i ddatblygiadau uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf.

Wrth amlinellu’r agenda, dywedodd y byddai’r Cyngor yn creu

Dinas gryfach – gan greu ac yn cynnal y swyddi sy’n talu’n dda, gyda system addysg sy’n helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, gyda thai da a fforddiadwy mewn cymunedau diogel, hyderus a grymus;

Dinas decach – lle gall pawb fwynhau cyfleoedd byw yng Nghaerdydd, lle mae’r rheiny sy’n dioddef effeithiau tlodi yn cael eu diogelu a’u cefnogi a lle mae diwrnod teg o waith yn cael diwrnod teg o gyflog; a

Dinas werddach – sy’n arwain y gwaith o ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac sy’n dathlu ac yn meithrin bioamrywiaeth, gyda mannau agored o ansawdd uchel o fewn cyrraedd hawdd a dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy.

Cyn ymhelaethu ar ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol, myfyriodd y Cynghorydd Thomas ar effaith y pandemig a sut y gwnaeth arweinyddiaeth, dinasyddiaeth a phartneriaeth – conglfeini’r polisi newydd – helpu Caerdydd i fynd i’r afael â’r argyfwng.

“Er gwaethaf yr holl ddioddefaint y mae Covid-19 wedi’i achosi, mae hefyd wedi ennyn y gorau yn ein dinas,” dywedodd, “ac rwyf am gofnodi eto fy malchder a’m diolchgarwch o ran y ffordd y mae gweithwyr yng Nghyngor Caerdydd ac ar draws y sector cyhoeddus wedi camu i’r adwy.

“Daeth gwasanaethau di-rif yn ddigidol dros nos. Newidiodd pob un ohonom i weithio hybrid a gweithio gartref a daeth dinasyddion o bob oed yn ddigidol dros nos hefyd, ac erbyn hyn mae ganddynt hyder newydd wrth ddefnyddio technoleg a disgwyliadau newydd o ran defnyddio technoleg hefyd.”

Ond rhybuddiodd fod gwasanaethau cyhoeddus bellach yn wynebu ton newydd o bwysau, gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, yn delio â galwadau heb eu tebyg o’r blaen a’r argyfwng costau byw dinistriol sy’n effeithio ar aelwydydd ledled Caerdydd.

“Ynghanol y digalondid, rwy’n gweld rheswm dros optimistiaeth,” dywedodd. “Dros y 25 o flynyddoedd diwethaf, mae Caerdydd wedi trawsnewid o ddinas nad yw’n newid i ddinas sy’n gystadleuol. Rhaid i ni nawr anelu at fanteisio ar gyfleoedd ôl-Covid i esblygu eto, gan droi cystadleurwydd yn ffyniant i bawb.”

Dywedodd fod Caerdydd wedi creu 7,000 o swyddi newydd rhwng 2015 a 2020 – 80% o’r twf net mewn cyflogaeth yng Nghymru. “Dyma swyddi na fyddent fel arall wedi dod i Gymru ac sydd wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc a allai fel arall fod wedi mudo dros y ffin.”

Ond ychwanegodd fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Caerdydd a’i naw awdurdod lleol cyfagos) wedi sefydlu meddylfryd newydd sef bod prosiectau buddsoddi y tu allan i Gaerdydd o fudd i bawb.

“Pan fydd Caerdydd yn llwyddo, bydd y Cymoedd yn llwyddo,” dywedodd. “A phan fydd y Cymoedd yn ffynnu, bydd Caerdydd yn ffynnu.”

Roedd y datblygiadau arfaethedig a amlinellwyd gan y Cynghorydd Thomas yn cynnwys:

Cwblhau’r ardal fusnes ganolog newydd yn y Sgwâr Canolog a’r Cei Canolog;

Felodrom newydd yn y Pentref Chwaraeon; ac

Arena dan do newydd fel catalydd cam nesaf datblygiad Bae Caerdydd – “y prosiect adfywio mwyaf yng Nghaerdydd ers y Morglawdd, gan greu miloedd o swyddi,” dywedodd.

Yr hyn sy’n allweddol i elfen ‘Decach’ yr agenda yw ymrwymiad y Cyngor i’r Cyflog Byw Gwirioneddol (CBG), gan fynd i’r afael â digartrefedd ac addysg. “Erbyn hyn mae gan Gaerdydd dros 160 o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ac un o’r cyfrannau isaf o swyddi sy’n talu islaw’r CBG ymhlith dinasoedd mawr y DU,” dywedodd.

Ym maes tai, dywedodd fod y ddinas yn wynebu argyfwng, lle mae rhenti’n anfforddiadwy a phrynu tŷ yn “freuddwyd bell” i ormod o drigolion iau. “Rydym yn gwybod yr ateb hirdymor: adeiladu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd da,” dywedodd.

“Rydym wedi adeiladu mwy o gartrefi cyngor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf nag yn y ddau ddegawd blaenorol,” dywedodd. “Mae bron i 1,000 bellach wedi’u hadeiladu ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu 4,000 yn fwy. Byddwn hefyd yn ystyried dulliau eraill o ehangu tai fforddiadwy, gan gynnwys ystyried premiwm treth gyngor o 300% ar eiddo sy’n wag am gyfnodau hir.”

Dywedodd mai addysg oedd prif flaenoriaeth y Cyngor.

“Ers 2012 mae cyrhaeddiad wedi gwella o flwyddyn i flwyddyn ac ni fyddwn yn stopio nes bod pob ysgol yng Nghaerdydd yn ysgol dda,” ychwanegodd. “Rydym wedi buddsoddi’r symiau uchaf erioed yn adeiladau ein hysgolion ac erbyn 2030 byddwn wedi adeiladu wyth ysgol gynradd newydd arall a dwy ysgol uwchradd newydd.”

Anogodd y rheiny yn y cyfarfod hefyd i helpu pobl ifanc i wneud y gorau o’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. “Rwyf am ofyn i sectorau diwylliannol a chwaraeon ein dinas weithio gyda ni i greu ‘Pasbort i’r Ddinas’ a fydd yn rhoi mynediad i’r holl bobl ifanc hynny at asedau anhygoel ein dinas.”

O ran yr agenda werdd, mae’n rhaid i’r Cyngor feddwl yn fawr, anogodd.

“Rydym i gyd yn gwybod beth yw potensial ynni’r llanw yn Aber Afon Hafren – byddai’n cynhyrchu saith y cant o ofynion pŵer y DU a miloedd o swyddi ac yn rhoi Caerdydd ar flaen y gad yn y sector technoleg werdd. Felly, byddaf yn arwain gwaith i edrych o’r newydd ar y cyfle hwn drwy gomisiwn annibynnol i’w lansio yn ddiweddarach eleni.

“Ein prif nod, fodd bynnag, yw gwneud y Cyngor hwn yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 a gwneud popeth o fewn ein gallu i wthio’r ddinas tuag at y targed hwn hefyd. Byddwn yn cyflwyno cyfres o brosiectau ynni ar gyfer y ddinas, gan godi ein niferoedd ailgylchu, a phlannu mwy o goed. Ers 2017, mae fy ngweinyddiaeth wedi plannu dros 10,000 o goed. Rydym yn bwriadu plannu 800 hectar ychwanegol, a fyddai’n arwain at y canopi coed yn gorchuddio 25% o arwynebedd tir y ddinas yn rhan o’n prosiect Coed Caerdydd.”

Yn ogystal, mae’r Cyngor yn bwriadu cwblhau’r rhwydwaith beicio ac mae’n disgwyl bod yn llwyddiannus yn ei gais am £100m gan Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer cyswllt tram newydd rhwng yr Orsaf Ganolog a Bae Caerdydd. “Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ddarparu gorsafoedd rheilffordd newydd ledled Caerdydd a byddwn yn gwella trafnidiaeth bysus yn sylweddol, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno tocyn bws safonol gwerth £1.”

Er mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am weithredu’r rhaglen, galwodd ar bobl Caerdydd i chwarae eu rhan hefyd. “Peidiwch â chamgymryd,” dywedodd, “mae gennym lawer i’w wneud dros y degawd nesaf. Bydd angen i arweinwyr gwleidyddol, yma yn y ddinas, yn y Brifddinas-ranbarth ac yn y Senedd wneud penderfyniadau dewr.

“Ond rwyf hefyd am fod yn glir y bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad personol gan bobl Caerdydd. Er mwyn datrys yr heriau sy’n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod, bydd angen i ddinasyddion gymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y newidiadau sydd eu hangen, p’un a yw hynny’n golygu helpu i wella ein cyfraddau ailgylchu, newid y ffordd yr ydym yn symud o amgylch y ddinas neu leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat. Oherwydd, fel bob amser, y dinasoedd llwyddiannus fydd y rheiny a all adeiladu cynghreiriau ledled y ddinas o sectorau cyhoeddus a phreifat a chymdeithas ddinesig i sicrhau bod newid yn digwydd, wedi’i alinio y tu ôl gweledigaeth a rennir.

You are in breach of copyright
error: Content is protected !!
%d bloggers like this: