MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu ei arweinydd newydd fel rhan o gynghrair rhwng Plaid a’r Grŵp Annibynnol.
Cafodd y Cynghorydd Darren Price ei enwi fel Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Cabinet. Mae’r Cyngh Price, sy’n aelod o grŵp Plaid Cymru, wedi gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Gors-las ers 2012.
Mae arweinydd y Grŵp Annibynnol, Cyng Jane Tremlett, yn aelod o’r Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Pwysleisiodd yr arweinydd newydd yr angen i gydweithio gan ddweud:
“Dros y blynyddoedd nesaf rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n rheolaidd ag aelodau o ochr arall y siambr, er mwyn trafod eu syniadau a’u pryderon, ac er mwyn cydweithio er lles pawb.”
Mae pum aelod o’r weinyddiaeth flaenorol wedi cadw eu seddi ar y Cabinet gyda phum aelod newydd wedi’u cyhoeddi heddiw.
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi – Y Cynghorydd Linda Evans
Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu – Y Cynghorydd Philip Hughes
Aelod Cabinet dros Adnoddau – Y Cynghorydd Alun Lenny
Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio – Y Cynghorydd Ann Davies
Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd – Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith – Y Cynghorydd Edward Thomas
Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Gareth John
Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Y Cynghorydd Glynog Davies
Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y Cynghorydd Jane Tremlett
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Fel Gweinyddiaeth rydym am fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw, adfywio economi a chanol trefi ein sir, darparu tai o ansawdd da, codi safonau addysgol, sicrhau cymorth gofal cymdeithasol i’r rhai mwyaf agored i niwed, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gweld strydoedd glanach a darparu gwasanaethau cyngor effeithiol o safon. Mae’r cyngor eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y meysydd hyn a’r dasg i ni nawr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Sir Gâr.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m