04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Arweinyddiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gynghrair rhwng Plaid Cymru a’r Grŵp Annibynnol.

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu ei arweinydd newydd fel rhan o gynghrair rhwng Plaid a’r Grŵp Annibynnol.

Cafodd y Cynghorydd Darren Price ei enwi fel Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Cabinet.  Mae’r Cyngh Price, sy’n aelod o grŵp Plaid Cymru, wedi gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Gors-las ers 2012.

Mae arweinydd y Grŵp Annibynnol, Cyng Jane Tremlett, yn aelod o’r Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Pwysleisiodd yr arweinydd newydd yr angen i gydweithio gan ddweud:

“Dros y blynyddoedd nesaf rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n rheolaidd ag aelodau o ochr arall y siambr, er mwyn trafod eu syniadau a’u pryderon, ac er mwyn cydweithio er lles pawb.”

Mae pum aelod o’r weinyddiaeth flaenorol wedi cadw eu seddi ar y Cabinet gyda phum aelod newydd wedi’u cyhoeddi heddiw.

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi – Y Cynghorydd Linda Evans

Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu – Y Cynghorydd Philip Hughes

Aelod Cabinet dros Adnoddau – Y Cynghorydd Alun Lenny

Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio – Y Cynghorydd Ann Davies

Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd – Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith – Y Cynghorydd Edward Thomas

Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Gareth John

Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Y Cynghorydd Glynog Davies

Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y Cynghorydd Jane Tremlett

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Fel Gweinyddiaeth rydym am fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw, adfywio economi a chanol trefi ein sir, darparu tai o ansawdd da, codi safonau addysgol, sicrhau cymorth gofal cymdeithasol i’r rhai mwyaf agored i niwed, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gweld strydoedd glanach a darparu gwasanaethau cyngor effeithiol o safon. Mae’r cyngor eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y meysydd hyn a’r dasg i ni nawr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Sir Gâr.”

%d bloggers like this: