03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Atgoffa perchnogion i gadw eu cŵn dan reolaeth

MAE cŵn sy’n poeni neu’n ymosod ar ddefaid ac ŵyn yn fater gofidus ac mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gofyn i bawb sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i fynd i’r afael ag ef.

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor wyna, gydag ŵyn ifanc allan yn y caeau, mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid dan reolaeth o amgylch defaid a da byw eraill.

Mae ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chŵn sy’n poeni neu’n ymosod ar ddefaid ar dir nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd.

Mae’r Cod Cefn Gwlad, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi canllawiau clir ar gyfrifoldeb perchnogion cŵn i gadw eu cŵn dan reolaeth effeithiol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn neu mewn golwg bob amser a dylai perchnogion fod yn hyderus y bydd eu cŵn yn dychwelyd ar orchymyn.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid a da byw eraill yn fater rydym yn eu cymryd o ddifrif ac yn anffodus iawn, rydym yn parhau i weld achosion lle mae anifeiliaid yn cael eu hanafu yn wael neu eu lladd.

Mae’r rhan fwyaf o berchnogion yn gwneud y peth iawn wrth reoli eu cŵn, ond mae ‘na rai eraill sydd ddim.

Mae’r costau – yn ariannol ac yn emosiynol – i’r rhai sy’n berchen ar anifeiliaid y maent yn dod o hyd iddyn nhw’n farw ac wedi’u hanafu yn gwbl annerbyniol, yn ogystal â’r goblygiadau o ran lles anifeiliaid.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

Rwy’n annog pob perchennog i sicrhau bod eu ci yn cael ei gadw dan reolaeth ac yn annog ceidwaid da byw i roi gwybod i’r heddlu am bob digwyddiad lle nad ydynt.”

Meddai Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru, Rob Taylor:

“Mae’r heddlu’n derbyn adroddiadau bod cŵn ledled Cymru yn ymosod ar ddefaid a da byw eraill yn rheolaidd, ac mae modd eu hatal yn llwyr.

Rydyn ni’n gweld mwy na 300 o ymosodiadau’r flwyddyn gydag anifeiliaid yn cael eu niweidio’n ddrwg a’u lladd yn aml, yn ogystal â chŵn yn cael eu saethu neu eu ewthaneiddio a’r perchennog yn ymddangos gerbron y llysoedd.

Mae perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn allweddol ac mae’n bwysig sicrhau bod anifeiliaid anwes dan reolaeth bob amser, neu os cânt eu gadael adref ar eu pennau eu hunain, bod y tŷ neu’r ardd yn ddiogel.”

%d bloggers like this: