MAE arolwg a gynhaliwyd gan y ddwy elusen blant fwyaf yng Nghymru wedi datgelu bod 85% o staff ysgolion yn poeni bod y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar iechyd meddwl eu disgyblion.
Roedd llai nag un o bob pump ohonyn nhw (18.5%) yn teimlo bod ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol i gefnogi eu disgyblion pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol, yn ôl yr arolwg o 200 o staff gan Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant Cymru.
Roedd mwy na 70% o’r rhai a holwyd wedi galw am hyfforddiant ychwanegol i staff a dywedodd yr un gyfran y byddai angen help arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles eu hunain. Dywedodd rhai athrawon eu bod wedi canfod bod cefnogi plant gartref ar y ffôn bob dydd yn eu draenio’n emosiynol ac roeddent yn poeni y byddant wedi ymlâdd ar ôl dychwelyd i’r ysgol.
Mae Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o gwnsela yn yr ysgol i helpu disgyblion yr effeithir arnynt gan y cyfnod clo. Ond maen nhw wedi galw am gynnydd brys mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, i atal problemau iechyd meddwl tymor hir ymysg plant a phobl ifanc.
Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru: “Mae Covid-19 wedi gorfodi plant a phobl ifanc i wynebu lefel digynsail o drawma, colled ac adfyd.
“Bydd gan ysgolion ran enfawr i’w chwarae mewn ailadeiladu cymunedau wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Buddsoddi mewn gweithio amlasiantaethol fydd yr allwedd i lwyddiant, oherwydd bydd angen cefnogaeth ar ysgolion i ymdopi â’r galwadau cynyddol arnynt. ”
Dywedodd Brigitte Gater, cyfarwyddwr cenedlaethol Gweithredu dros Blant Cymru: ‘Mae canfyddiadau ein hadroddiad yn adlewyrchu profiad ein gweithwyr allweddol rheng flaen yn ystod y pandemig coronafirws. Rydym wedi clywed am deuluoedd, a oedd eisoes dan bwysau sylweddol, yn gweld eu hincwm yn prinhau ac yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd tra’n ceisio addysgu ac ysgogi eu plant gartref.
“Mae’r effaith ar deuluoedd wedi bod yn ddwys a nawr mae plant yn wynebu mynd yn ôl i’r ysgol mewn amgylchedd sydd yn wahanol iawn.
“Mae’n hanfodol nad yw ysgolion yn wynebu canlyniadau’r cyfnod cloi ar eu pen eu hunain a bod ganddynt becyn cynhwysfawr o ymyrraeth a chefnogaeth gynnar i blant sydd wedi profi amgylchiadau heriol ac mewn sawl achos, caledi difrifol.”
Mae’r elusennau wedi galw am arian ychwanegol i sefydlu hybiau cymorth i deuluoedd mewn partneriaeth ag ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig lle mae effeithiau’r pandemig wedi’u teimlo fwyaf. Byddant yn cynnig ymyrraeth gynnar i deuluoedd, megis lles emosiynol a gwytnwch, rheoli cartrefi yn ymarferol, a chyfeirio at wasanaethau a all helpu’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol.
Mae tystiolaeth yn dangos, os na fydd teuluoedd yn cael cefnogaeth gynnar, gall eu plant ddioddef problemau iechyd meddwl tymor hir, fel y gwelwyd ar ôl Corwynt Katrina a daeargryn Christchurch.
Mae’r elusennau hefyd eisiau gweld gweithgareddau allgyrsiol i ddisgyblion mewn ardaloedd difreintiedig i’w helpu i ddal i fyny â’u dysgu a’u datblygiad.
Mae Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant Cymru wedi llunio adroddiad ‘Lessons from lockdown’ yn seiliedig ar ganfyddiadau eu harolwg a chyfweliadau â staff rheng flaen sy’n gweithio mewn gwasanaethau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae’n rhybuddio y gallai disgyblion yr effeithir arnynt gan drawma ddangos ystod eang o ymatebion, gan gynnwys newidiadau ymddygiad, trallod emosiynol, galar, anawsterau i ddal sylw, methiant academaidd, hunllefau a straen.
Dywedodd Sarah Crawley: “Rydyn ni’n gwybod y bydd rhai plant wedi wynebu tlodi, trais domestig, gwrthdaro rhwng rhieni neu gam-drin plant am y tro cyntaf. Rydym hefyd yn gwybod, heb ymyrraeth gynnar, y gall y trawma a’r adfyd hwn arwain at broblemau iechyd meddwl tymor hir. ”
Dywedodd Brigitte Gater: “Rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a darparwyr trydydd sector weithio gyda’i gilydd i liniaru effeithiau’r argyfwng iechyd cyhoeddus a allai roi staen ar fywydau ein plant am flynyddoedd lawer i ddod.”
Mae Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant Cymru yn galw am ymateb rheng flaen cryfach gan gynnwys:
Ymateb rheng flaen gwell i faterion diogelu ac iechyd meddwl gydag ysgolion a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn gweithio’n agosach at ei gilydd;
Cefnogaeth gyda thlodi bwyd, rheoli cyllid cartrefi, gwahardd digidol ac atgyfeirio i gymorth gyda thai a lles;
Gweithgareddau cyfoethogi ychwanegol y tu allan i oriau ysgol, o bell neu fel arall, i gefnogi dysgu plant a chymorth ehangach i deuluoedd gan gynnwys gofal seibiant, cefnogaeth emosiynol a meithrin gwytnwch;
Cefnogaeth therapiwtig ychwanegol i deuluoedd plant iau a, phan fo hynny’n ymarferol o fewn cyfyngiadau iechyd, sicrhau bod therapi chwarae ar gael i blant lle nad yw ar gael ar hyn o bryd. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod disgyblion iau mewn mwy o berygl o gael effeithiau andwyol tymor hwy, yn enwedig os yw eu teuluoedd wedi profi trafferthion yn ystod y pandemig.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m