04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Atyniad allweddol Casnewydd yn derbyn grant i helpu i leihau allyriadau carbon

BYDD atyniad allweddol yng nghanol Casnewydd yn derbyn ychydig dros £78,000 i helpu i leihau allyriadau carbon diolch i grant gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cais llwyddiannus i gronfa Grant Cyfalaf Trawsnewid y llywodraeth i osod paneli solar ar do Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

Bydd y grant hefyd yn ariannu’r gwaith o uwchraddio’r goleuadau yn yr oriel gelf i LED, opsiwn llawer mwy effeithlon o ran ynni.

Bydd y gwaith yn lleihau allyriadau’r adeilad o tua 15 tunnell o garbon deuocsid cyfwerth y flwyddyn, gyda’r paneli solar yn cynhyrchu bron i 45,000kWh o ynni glân bob blwyddyn.

Mae cynhyrchu cymaint o ynni â phosibl o baneli solar yn un o’r camau gweithredu yng Nghynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol y cyngor. Mae’r cynllun yn nodi’r gwaith y byddwn yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i leihau ein hallyriadau carbon wrth i ni anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae’r newyddion am y grant wedi’i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfa, sydd eleni yn dathlu pŵer amgueddfeydd i effeithio ar newid cadarnhaol yn eu cymunedau.

Yn sôn am y newyddion, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi derbyn y grant hwn i helpu i wella un o’n prif atyniadau yng nghanol y ddinas.

“Rydym eisoes wedi cymryd yr awenau fel cyngor yn y maes hwn, gan weithio gyda gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a Chwmni Cydweithredol Egni i osod paneli solar ar doeau 27 o’n hadeiladau. ac rwy’n falch ein bod yn gallu ychwanegu’r Amgueddfa a’r Oriel Gelf at y rhestr.

“Mae’r Amgueddfa yn un o gonglfeini ein harlwy treftadaeth, ac mae’n wych ein bod yn gallu dathlu Diwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfa drwy ddangos sut mae’n helpu i gyfrannu at ddyfodol di-garbon i Gasnewydd a Chymru.

“Newid yn yr hinsawdd yw mater diffiniol ein cenhedlaeth, ac mae angen i bob un ohonom wneud ein rhan i fynd i’r afael ag ef. Camau fel hyn yw rhai o’r camau ymarferol y gallwn eu cymryd fel cyngor i wneud ein rhan, a diolchwn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i wneud hyn yn bosibl.”

%d bloggers like this: