04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Atyniad Penderyn Abertawe’n datblygu

MAE gwaith yn parhau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y bwriedir iddo ddod yn atyniad i ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn ystod haf 2020 ac mae’n rhan o raglen adfywio’r ddinas gwerth £1 biliwn a fydd yn helpu Abertawe i arwain y ffordd allan o’r pandemig.

Mae’r gwaith yn bosib diolch i grant £3.75 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Bydd cynllun y cyngor yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa’n ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni o Gymru.

Mae’r prif gontractwr, John Weaver Contractors, o Abertawe, wedi parhau â’r gwaith yn unol â chyfyngiadau’r llywodraeth drwy gydol y pandemig.

Mae cwmni arall o Gymru, Hayes Engineering & Cladding wedi adeiladu’r fframwaith dur a fydd yn ail-greu tŵr cloc gwreiddiol y pwerdy a nhw fydd yn ei osod hefyd.

Mae ffrâm canolfan ymwelwyr Penderyn wedi’i hadeiladu. Bydd llwybr yn cysylltu’r ganolfan â rhan o felin rolio hanesyddol y safle, lle bydd gan Penderyn storfa casgenni.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart:

“Mae’n wych gweld y gwaith i adfer y safle hanesyddol hwn yn arwain gwaith adfywio coridor isaf Afon Tawe. Mae’n dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried amddiffyn ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd swyddog gweithredu Penderyn Whisky, Neil Quigley:

“Rydym yn falch ein bod ni’n gwneud cynnydd gyda’r prosiect cyffrous hwn a fydd yn darparu lle ychwanegol hanfodol ar gyfer y distyllfa yn ogystal â chyfleuster modern newydd sbon a chyfoes i ymwelwyr a fydd yn cyd-fynd â’n distyllfeydd ym Mannau Brycheiniog a Llandudno yng ngogledd Cymru.”

Sicrhaodd y cyngor grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y gwaith helaeth i drawsnewid safle’r Hafod-Morfa, ac mae gwaith ychwanegol i adeiladau hanesyddol eraill yn yr ardal yn cael ei gefnogi gan gyllid adfywio Llywodraeth Cymru.

Gweithiodd y cyngor gyda phartneriaid – gan gynnwys Penderyn a Phrifysgol Abertawe – i greu’r cais i’r Gronfa Dreftadaeth.

%d bloggers like this: