03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bae Copr yn rhoi hwb gwerth £34.6 miliwn i fusnesau rhanbarthol

O beirianneg ac addurno i loriau a thirlunio, dengys ffigurau newydd fod Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi elwa o waith gwerth dros £34.6 miliwn diolch i adeiladu cam un Bae Copr.

Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae datblygiad cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, cartrefi newydd, y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd a lleoedd newydd i fusnesau hamdden a lletygarwch.

Dengys y ffigurau hefyd fod busnesau yn Abertawe wedi elwa o £17.9m o’r £34.6m a wariwyd. Roedd busnesau mewn mannau eraill yng Nghymru y tu allan i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe wedi elwa hefyd o wariant pellach gwerth £18.7m.

Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynghorir gan y Rheolwyr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy’n arwain y gwaith adeiladu.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Mae datblygiad cam un Bae Copr mor bwysig i Abertawe, De-orllewin Cymru a Chymru gyfan nid yn unig oherwydd yr ymwelwyr, y gwariant a’r swyddi ychwanegol y bydd yn eu cynhyrchu yng nghanol ein dinas ond hefyd oherwydd y busnesau cadwyn gyflenwi lleol a rhanbarthol a thrwy Gymru gyfan sydd wedi elwa o’r prosiect wedi drwy gydol y gwaith adeiladu.

“Dengys y ffigurau hyn y swm enfawr o arian sydd wedi cael ei ailfuddsoddi yn economi Abertawe, yr economi ranbarthol ac economi Cymru drwy waith adeiladu’r ardal newydd, sydd wedi gwneud cynnydd eithriadol yn ystod y pandemig.

“Bydd y miloedd o weithwyr adeiladu sydd wedi bod ar y safle ers i’r gwaith adeiladu gychwyn hefyd wedi bod yn gwario arian yn siopau, bwytai, gwestai, thafarndai a busnesau eraill Abertawe, sydd wedi bod yn hwb i’w groesawu i’n cymuned fusnes yn y cyfnod heriol hwn.

“Ond yn ogystal â Bae Copr, byddwn yn ceisio sicrhau bod busnesau lleol yn elwa yn y ffordd hon fel rhan o’n cynlluniau ailddatblygu sylweddol yn Abertawe. Mae hyn yn cynnwys adeiladu datblygiad swyddfa newydd ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin, gyda digwyddiad eisoes wedi’i gynnal i fusnesau lleol ddysgu am y cyfleoedd sy’n rhan o’r prosiect hwnnw.”

Caiff elfen yr Arena o Fae Copr a’r datblygiad swyddfa newydd a gynllunnir ar gyfer Ffordd y Brenin eu hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe – buddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi’u cymeradwyo.

Mae’r bont newydd dros Oystermouth Road yn Abertawe, sydd hefyd yn rhan o gam un Bae Copr, hefyd wedi’i ariannu’n rhannol gan gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

%d bloggers like this: