03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bagiau bin bwyd i bob aelwyd i helpu i ailgylchu gwastraff bwyd

Mae bagiau bin bwyd yn cael eu dosbarthu i’r holl gartrefi ledled Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf.

Caiff y bagiau bin bwyd eu dosbarthu er mwyn helpu preswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd yn haws.

Bydd aelwydydd yn cael tri rholyn o fagiau i’r bin bwyd ar gyfer eu cadis cegin brown ynghyd â’u bagiau glas sy’n cael eu dosbarthu’n flynyddol.

Bydd y broses ddosbarthu’n dechrau ym mis Hydref ac yn para tan ddiwedd mis Mawrth.

Gall preswylwyr gael gwybod pryd bydd eu bagiau glas a’u bagiau bin bwyd yn cael eu dosbarthu drwy ddefnyddio’r traciwr dosbarthu ar wefan y cyngor. Nodwch eich côd post a bydd yn rhoi gwybod i chi am eich mis dosbarthu. Yn ogystal, bydd yn nodi os yw’r bagiau eisoes wedi cael eu dosbarthu.

O 7 Hydref 2019, y nifer fwyaf o fagiau du y gall preswylwyr eu rhoi allan i’w casglu fydd tri bob pythefnos, felly mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn bwysicach nag erioed.

Os oes angen cadi brown neu fin gwyrdd newydd arnoch, mae’n gyflymach casglu un o’ch Hwb agosaf; maent hefyd ar gael yn swyddfeydd y cyngor yn Llandeilo, neu gallwch eu harchebu ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros yr Amgylchedd: “Mae’r ffigurau’n dangos mai gwastraff bwyd yw bron chwarter o gynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin.

Drwy ddosbarthu bagiau bin bwyd, y gobaith yw y byddwn yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r biniau bwyd. Does dim swm rhy fach, hyd yn oed bagiau te, gofynnwn i chi eu hailgylchu gan fod gwastraff bwyd ar safle tirlenwi yn creu methan, nwy tŷ gwydr sy’n 23 gwaith yn fwy marwol na charbon deuocsid.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Efallai y bydd peth amser cyn i breswylwyr gael eu bagiau, a gofynnwn iddynt fod yn amyneddgar. Mae’r bagiau’n cael eu dosbarthu gan ein criwiau ar wahân i’r casgliadau biniau, a chan fod mwy na 87,000 o gartrefi yn y sir, bydd yn cymryd ychydig o amser.”

Mae tri rholyn o fagiau glas yn cael eu dosbarthu i aelwydydd, sy’n ddigon i roi chwe bag allan bob pythefnos. Fodd bynnag, gallwch roi cynifer o fagiau glas ag y mynnoch i’w hailgylchu ac mae teuluoedd mawr a allai fod angen rholiau ychwanegol arnynt yn ystod y flwyddyn yn gallu casglu mwy o fagiau o’r 12 pwynt casglu ledled y sir.

Ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu  i gael rhagor o wybodaeth .

%d bloggers like this: