03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi £33m gyfer tai gwyrddach

GALL datblygwyr preswyl sy’n bodloni safonau gwyrdd nawr gael mynediad at Gymhelliant Cartrefi Gwyrdd newydd a fydd yn helpu i ddarparu cartrefi mwy effeithlon o ran thermol a charbon is yng Nghymru.

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi
Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen
arnynt i ddechrau arni, cryfhau a thyfu. Buddsoddodd y Banc Datblygu i gyd £197.6 miliwn ym mlwyddyn ariannol
2020/21.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd
[1] ar gael ar fenthyciadau datblygu preswyl o Gronfa Datblygu Eiddo
Cymru Banc Datblygu a Chronfeydd Safleoedd Segur Cymru [2] ac mae’n
cynnwys gostyngiad mewn ffioedd ad-dalu benthyciad o hyd at 2%.

Mae cyllid ar gyfer hyd at 100% o gostau adeiladu ar gael gyda llog yn
cael ei gronni drwy gydol tymor y benthyciad. Bydd cymhwysedd yn dibynnu ar feini prawf cymhwyso sy’n cynnwys statws Graddfa A/  ar feini Passivhaus EPC, strwythurau nad ydynt yn goncrid a systemau gwresogi  tanwydd di-ffosil.

Mae gweithrediad adeiladau yn cyfrif am tua 30% o allyriadau yn y DU, yn
bennaf o wresogi, oeri a defnyddio trydan. Ar gyfer adeiladau newydd,
gall yr allyriadau ymgorfforedig o adeiladu gyfrif am hyd at hanner yr
effeithiau carbon sy’n gysylltiedig â’r adeilad dros ei gylch oes.

Mae data diweddaraf RICS (2020) yn dangos bod 77% o’r holl adeiladau
newydd yng Nghymru wedi cyflawni sgôr EPC B, gyda dim ond 5% yn cael
sgôr A. Gall inswleiddio ychwanegol, gwydro dwbl/triphlyg a phaneli
solar i gyd helpu i wella graddfeydd EPC.

Derbynnir yn gyffredinol hefyd bod strwythurau amgen megis fframiau
pren, blociau hempcrit, blociau calchcrit a brics myseliwm yn cael llai
o effaith carbon na choncrid. Mae’r defnydd o fframiau pren wedi dod yn
fwy cyffredin dros y degawd diwethaf ond mae pwysau byd-eang diweddar ar
gost ac argaeledd pren wedi arwain at nifer o ddatblygwyr yn troi’n ôl
at goncrid a dyna pam yr angen am gymhellion ariannol.

Bydd datblygwyr sy’n gosod systemau gwresogi tanwydd di-ffosil hefyd yn
gallu elwa ar y cymhelliant newydd wrth i bympiau gwres o’r ddaear ac
o’r aer leihau’r galw gweithredol am ynni yn ystod oes eiddo.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James:

“Mae’n rhaid i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd fod wrth wraidd popeth
a wnawn yng Nghymru wrth i ni i gyd weithio gyda’n gilydd ar draws y
degawd hwn o weithredu.

“Bydd y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd yn cefnogi adeiladwyr tai BBaCh i
ddarparu cartrefi carbon isel, rhan o’n taith i Gymru Sero Net erbyn
2050.

“Bydd dod o hyd i ffyrdd arloesol o wella effeithlonrwydd ynni
cartrefi newydd hefyd yn lleihau costau i berchnogion tai sy’n
hollbwysig wrth i ni helpu pobl drwy argyfwng costau byw.”

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr y Banc Datblygu:

“Mae busnes cynaliadwy wrth wraidd ein hegwyddorion craidd cynaliadwy felly rydym am gefnogi datblygwyr i wneud y newid i arferion datblygu gwyrddach fel rhan o ymdrech Tîm Cymru i adeiladu economi gryfach a gwyrddach.

“Mae ein Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd yn cynnig costau benthyca is ar
gyfer cynlluniau tai a fydd yn helpu i ddarparu cartrefi mwy effeithlon
o ran thermol a charbon is yng Nghymru. Dyma’r cyntaf o nifer o
fentrau wrth i ni geisio cefnogi’r daith i sero net gyda chyllid
sy’n helpu cwmnïau blaengar i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Dywedodd Cenydd Rowlands, Cyfarwyddwr Eiddo yn y Banc Datblygu:

“Rydym eisioes eisoes yn gweld enghreifftiau o ddatblygwyr sydd am wneud y newid tuag at opsiynau mwy ecogyfeillgar yn enwedig o ystyried y newidiadau sydd ar ddod mewn rheoliadau adeiladu sy’n debygol o orfodi  safonau eco uwch ar draws y cyfan. cynlluniau newydd.

“Rydyn ni’n gwybod y pwysigrwydd y mae datblygwyr yn ei roi ar
sicrwydd cyllid. Mae hyn wedi dod yn bwysicach fyth yn ddiweddar o
ystyried yr ansicrwydd ychwanegol ynghylch elfennau allweddol eraill o
ddatblygiad, megis argaeledd cyflenwad a chwyddiant costau deunyddiau.
Mae ein tîm eiddo ymroddedig yma i helpu gyda phroses gwneud
penderfyniadau gyflym sydd wedi’i dylunio i gael mwy o ddatblygwyr i
adeiladu tai gwyrddach mor gyflym ac effeithlon â phosibl.”

Mae’r datblygwyr Wellspring Homes o Gaerdydd yn gobeithio defnyddio’r
Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd ar gyfer eu datblygiad nesaf. Gan ddefnyddio
contractwyr lleol, mae’r cwmni ar fin cwblhau’r gwaith o adeiladu ei
eiddo cyntaf a adeiladwyd gan ddefnyddio Hempcrit, deunydd naturiol
‘gwell na di-garbon’ sy’n gallu anadlu. Mae caniatâd cynllunio wedi’i
roi ar gyfer eu datblygiad nesaf yng Nghastell-nedd a fydd yn cynnwys
wyth o gartrefi carbon isel. Gyda graddfa ynni gradd A, bydd gan bob un
adeiladwaith wal solet gan ddefnyddio Hempcrit a bydd pympiau gwres
ffynhonnell aer wedi’u gosod arnynt.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Hadleigh Hobbs:

“Mae gennym ni gyfle i adeiladu tai yn wahanol yng Nghymru drwy defnyddio dulliau adeiladu mwy arloesol i ddarparu’r genheflarth nesaf ofod byw.

Mae pob un o’n cartrefi yn
cael ei adeiladu gan ddefnyddio waliau Hempcrit solet. Mae hyn yn rhoi
màs thermol da iawn gyda’i briodweddau unigryw yn helpu i storio a
rhyddhau gwres o waliau’r adeilad, gan gyfyngu ar amrywiadau mewn
tymheredd, lleihau costau ynni a dileu anwedd fwy neu lai trwy ryddhau
lleithder mewnol. Mae defnyddio cywarch o fewn y waliau hefyd yn cloi
carbon deuocsid yn strwythur yr adeilad.

“Fodd bynnag, mae cyllid yn hanfodol ar gyfer ein diwydiant os ydym am
ehangu a darparu mwy o gartrefi carbon isel yng Nghymru. Dyma beth fydd
yn ein galluogi i fireinio’r dechnoleg a gwneud cartrefi’r dyfodol
yn fasnachol hyfyw. Mae’r Banc Datblygu yn deall yr her hon ac yn awr
yn gallu cynnig y cymorth sydd ei angen i leihau allyriadau carbon drwy
ddatblygu cartrefi newydd sydd wedi’u hadeiladu’n dda, yn hardd i
fyw ynddynt ac yn fuddiol i’n hamgylchedd naturiol.”

%d bloggers like this: