03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gosod gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg ôl-16

BYDD y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gosod ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 yn gyfraith a chreu ceidwad cenedlaethol newydd ar gyfer addysg ôl-16 i ehangu dysgu gydol oes, canolbwyntio ar les dysgwyr, a chefnogi ein colegau a’n prifysgolion meddai Jeremy Miles y Gweinidog Addysg.

Ychwanegodd:

“”Bydd y newid a gyflwynir gan y Bil hwn yn helpu i chwalu rhwystrau, yn sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr ac yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesi.”

Mae mynd â’r Bil hwn drwy’r Senedd yn un o ymrwymiadau pwysig y Rhaglen Lywodraethu ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru.

Dyma bum peth y bydd y Bil yn helpu i’w cyflawni:

Dod ag addysg ôl-16 ynghyd o dan un corff

Dim ond gan Gymru, o blith gwledydd y Deyrnas Unedig, y bydd un system i reoli colegau, prifysgolion, prentisiaethau, chweched dosbarthiadau ac addysg oedolion yn sgil sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i symud yn ddi-dor o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Ymrwymiad i ddysgu gydol oes

Mae’r Bil yn nodi dyletswydd newydd i’r comisiwn hyrwyddo dysgu gydol oes a dyletswydd am y tro cyntaf i ariannu “cyfleusterau priodol” ar gyfer addysg bellach i oedolion. Bydd dysgu gydol oes yn ein helpu i greu cymdeithas decach ac economi ffyniannus. Mae’r Bil yn fodd o roi cyfle i bawb ddatblygu neu ail-gychwyn eu gyrfa fel oedolyn.

Sicrhau bod llais dysgwyr a myfyrwyr yn cael ei glywed

Mae gofyniad newydd ar ddarparwyr i sicrhau bod buddiannau dysgwyr a myfyrwyr yn cael eu cynrychioli a bod eu lles yn cael eu cefnogi.
Bydd y Comisiwn yn sicrhau bod gan ddarparwyr addysg ôl-16 weithdrefnau ar waith ar gyfer ymchwilio i gwynion gan fyfyrwyr.

Mwy o addysg cyfrwng Cymraeg

Bydd y Bil yn gwella cyfleoedd i astudio yn y coleg neu’r brifysgol yn ddwyieithog ac yn Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’n bwysig bod pobl yn gallu astudio mewn iaith o’i dewis.

Pwrpas clir ar gyfer addysg ôl-16

Mae’r Bil hwn yn gosod sail gyfreithiol i werthoedd a nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg drydyddol gydol oes o ansawdd uwch ac sy’n fwy hygyrch.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Dim ond drwy fabwysiadu dull system gyfan, sector cyfan a chenedl gyfan y byddwn yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, yn creu cyfleoedd, ac yn codi safonau.

“Rwy’n ystyried y Bil hwn fel y Bil ‘parch cydradd’. Bydd yn cefnogi cryfderau gwahanol ond cyflenwol pob sefydliad, fel bod dysgwyr o bob oed yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd ac yn gallu cyfrannu i’r economi, i’r sector addysg ac i’n cymunedau”

%d bloggers like this: