03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bridiwr cŵn didrwydded o Lanelli yn pocedu miloedd o bunnoedd yn anghyfreithlon

Gwnaeth bridiwr cŵn anghyfreithlon o Lanelli filoedd o bunnoedd drwy werthu ei gŵn bach ar Gumtree a gwefannau hysbysebu am ddim.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod Ashleigh Price o Lwynhendy, sydd heb drwydded, wedi pocedu rhwng £34k a £57k drwy werthu 10 torraid dros gyfnod o 16 mis.

Mae’n anghyfreithlon hysbysebu 3 thorraid o gŵn bach neu fwy o’r un safle mewn cyfnod treigl o 12 mis heb drwydded bridio cŵn.

Mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, dywedwyd wrth y llys fod swyddogion y cyngor wedi ymweld â’r safle ym Mharc Richard yn dilyn cwynion a gafwyd gan Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ym mis Gorffennaf y llynedd fod gan y gŵr 25 oed gynelau yn ei ardd a’i fod yn bridio cŵn yn anghyfreithlon.

Yn sgil archwilio’r ddwy wefan, datgelwyd bod pedwar cyfrif yn enw Price a dau yn enw ei wraig a bod toreidiau yn cynnwys cŵn Jack Russell, Labrador, Cocker Spaniel a West Highland Terrier wedi’u hysbysebu ar y gwefannau rhwng mis Ebrill 2020 a mis Tachwedd 2021. Nododd y rhan fwyaf o’r hysbysebion eu bod yn anifeiliaid anwes y teulu.

Yn ei ddatganiad lliniarol, dywedodd Price ei fod am wneud mwy arian gan ei fod yn derbyn budd-daliadau wythnosol o £120 a’i fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun ac wedi sefydlu cyfrifon yn enw ei wraig. Gwadodd ei fod wedi gwneud £35k gan ddweud ei fod wedi ‘bargeinio’ ynghylch y pris a bod rhai o’r cŵn wedi cael eu rhoi i deulu a ffrindiau. Dywedodd hefyd nad oedd ganddo gofnod o bris gwerthu’r cŵn.

Cafodd Price ddirwy o £500 a chafodd orchymyn i dalu £750 o gostau a gordal dioddefwr o £50.

 

 

%d bloggers like this: