03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddi £25m mewn ysgolion bro fynd i’r afael ag effaith tlodi

MAE Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi bron i £25m o fuddsoddiad yn y flwyddyn ariannol nesaf i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad pobl ifanc.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i sicrhau y gall rhagor o ysgolion weithredu a datblygu yn ysgolion bro, sy’n ceisio ymgysylltu â theuluoedd a gweithio gyda’r gymuned ehangach i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae’n rhan o becyn o fesurau a fydd yn darparu rhagor o gymorth i ysgolion er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd dim ots beth yw ei gefndir.

Bydd £4.9m o’r buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i gynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a gyflogir gan ysgolion i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a phroblemau presenoldeb, gan helpu i ddarparu rhagor o gymorth i blant a theuluoedd sydd angen hynny fwyaf. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu treial Rheolwyr Bro mewn ysgolion i gysylltu ag asiantaethau eraill i gefnogi disgyblion a’r gymuned ehangach, a hefyd i ariannu ymchwil ar gyrhaeddiad addysgol. Mae buddsoddi mewn ysgolion bro yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd £20m yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith o ddarparu ysgolion bro, i ariannu ffyrdd ymarferol o wella cyfleusterau ysgolion er mwyn i’r gymuned allu gwneud gwell defnydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys darparu storfeydd cyfarpar ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n cynnal gweithgareddau allgyrsiol, gwella goleuo allanol mewn ardaloedd chwaraeon, a chyflwyno mesurau diogelwch er mwyn i ardaloedd y mae’r ysgol a’r gymuned yn eu defnyddio allu cael eu cadw ar wahân. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ledled Cymru gan ddefnyddio fformiwla sy’n seiliedig ar niferoedd disgyblion ac ysgolion.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn hanfodol os ydym am sicrhau dyheadau a safonau uchel i bawb. Rydym yn gwybod bod y cartref a’r gymuned yn dylanwadu’n fawr ar gyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc a bod angen rhagor o gymorth ar athrawon i fynd i’r afael â’r materion y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu. Drwy fuddsoddi mewn ysgolion bro, rydym yn sicrhau bod gan ddysgwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu potensial.

Mae ysgolion bro yn datblygu partneriaethau ag ystod o sefydliadau, ac yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol i deuluoedd ac i’r gymuned ehangach. Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethau, gan wella bywyd plant, cryfhau teuluoedd ac adeiladu cymunedau cryfach.

Yn anad dim, cenhadaeth ein cenedl yw mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a gosod safonau uchel i bawb. Rwyf i am i bob person ifanc gael uchelgeisiau mawr ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol ac mae hynny’n golygu defnyddio pob dull sydd gennym i’w cefnogi nhw.”

%d bloggers like this: