03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddi £8.5m mewn cynllun diwydiannol mawr yng Nglynebwy

MAE Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £8.5 miliwn i adeiladu uned ddiwydiannol fawr newydd ym Mlaenau Gwent, gyda’r nod o ddenu busnesau arweiniol i’r ardal, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi.

Bydd uned ddiwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yn cael ei hadeiladu yn Rhyd-y-blew, Glynebwy, yn ardal y Cymoedd Technoleg.

Yr adeilad modern hwn fydd y cam cyntaf mewn uwchgynllun ehangach, a bydd yn helpu i fodloni’r galw enfawr am unedau diwydiannol yn Ne-ddwyrain Cymru.

Disgwylir y bydd busnesau’n gallu dechrau rhentu unedau ar y safle newydd ddiwedd haf 2023. Mae’r contract i adeiladu’r safle wedi cael ei ddyfarnu i Jones Bros (Henllan) Ltd. Yr asiant marchnata ar gyfer y safle yw Knight Frank.

Mae cwmnïau yn y sector modurol a’r sector bwyd eisoes wedi mynegi diddordeb yn y datblygiad newydd, sydd hefyd o fewn Ardal Fenter Glynebwy.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus.  Rhan allweddol o’r ymrwymiad hwnnw yw rhannu ffyniant mewn ffordd decach, gyda swyddi gwell yn agosach at gartrefi pobl.

Mae ein cefnogaeth ar gyfer yr uned hon ar safle diwydiannol, sy’n barod ar gyfer buddsoddiadau, yn dangos yn glir ein bod yn gwireddu’r uchelgais hwnnw. Byddwn yn parhau i ysgogi a chefnogi rhagor o gyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd uchel a datblygu sgiliau mewn cymunedau lleol.

Rydyn ni’n archwilio pob cyfle i gefnogi ein heconomi i dyfu wrth inni barhau i ymgryfhau yn dilyn y pandemig. Bydd datblygu’r safle newydd hwn yn ategu’r buddsoddiad enfawr gan Lywodraeth Cymru mewn deuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Dylai’r buddsoddiad pellach hwn helpu i ddarparu hyder ar gyfer rhagor o ddatblygiadau yn ardal y Cymoedd Technoleg. Rydyn ni’n credu y gall y safle hwn ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer technolegau newydd a’r sector gweithgynhyrchu uwch sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang, ynghyd â rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru, ardal sydd hefyd yn llawn potensial.”

Ychwanegodd Cynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, John Morgan, Aelod Gweithredol Lle ac Adfywio:

“Mae hyn yn newyddion arbennig o dda. Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn i ddenu buddsoddiadau i Flaenau Gwent, ac mae’n bleser mawr gen i groesawu’r buddsoddiad mawr yn yr ardal hon.

Rwy’n sicr y bydd yn darparu lleoliad gwych ar gyfer unrhyw fusnesau sy’n chwilio am safle strategol modern, ac rwyf yr un mor hyderus y bydd yn creu cyfleoedd swyddi i bobl leol mewn busnesau gwerth uchel.”

 

%d bloggers like this: