03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddiad £750k yn arwain at ailagor Marina Abertawe

GALL perchnogion cychod bellach gael mynediad at farina poblogaidd Abertawe’n dilyn gwaith adfywio mawr.

Mae Cyngor Abertawe wedi cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £750,000 i lifddorau mewnol y marina i ddarparu offer pwysig a fydd yn para 10-15 mlynedd arall.

Mae’r gwaith gwella hanfodol wedi atal perchnogion cychod rhag mynd i mewn ac allan o’r marina dros y misoedd diwethaf wrth i’r gwaith adnewyddu ar y llifddorau fynd rhagddo.

Mae prif fynedfa’r marina’n cynnwys dwy set o lifddorau – y rhai mewnol a’r rhai allanol. Gwnaed gwaith adnewyddu llawn ar y llifddorau allanol oddeutu 10 mlynedd yn ôl. Ni wnaed unrhyw waith mawr ar y llifddorau mewnol dros y 40 mlynedd diwethaf ac roedd angen eu huwchraddio.

Er mwyn cwblhau’r gwaith, symudodd craeniau’r llifddorau trwm a chawsant eu cludo i gyfleuster arbenigol lle cawsant eu hatgyweirio a’u hail-baentio. Ailosodwyd y llifddorau a ail-baentiwyd yn ddiweddar.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,

“Mae Marina Abertawe’n rhan bwysig iawn o’n dinas ac mae’n hanfodol i Abertawe fel dinas y glannau.

“Mae perchnogion cychod yn dod o bell i ddefnyddio’n cyfleusterau arobryn felly mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y marina a’i holl elfennau gweithredol yn gweithio’n gywir.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud y gwaith adnewyddu hwn a’i gwblhau cyn yr haf a bydd hyn yn sicrhau llawer mwy o flynyddoedd o fwynhad i berchnogion cychod pan fyddant yn Abertawe.”

Ynghyd ag adnewyddu’r llifddorau, gwnaed gwaith cynnal a chadw hanfodol arall i lwybr poblogaidd i gerddwyr rhwng y marina ac SA1.

Ym mis Chwefror, profodd y ddinas bŵer Storm Eunice ac o ganlyniad difrodwyd Pont Trafalgar, a drechwyd gan y tonnau uchel. Achosodd dŵr y môr ddifrod i’r offer rheoli trydanol a ddefnyddir i agor a chau rhan o’r bont i alluogi cychod i hwylio heibio.

Gwariwyd £60,000 arall ar waith i atgyweirio’r bont, gan gynnwys ailadeiladu’r systemau trydanol fel y gall y bont agor a chau unwaith eto.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens:

“Mae Pont Trafalgar yn darparu llwybrau cerdded dros Afon Tawe a rhwng y marina ac SA1 i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers y storm ym mis Chwefror.

“Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn wedi’n galluogi i ailagor y bont.”

Rhoddwyd gwobr Y Faner Las i Farina Abertawe’n ddiweddar. Cynhelir gwobrau’r Faner Las yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Maent yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu amgylchedd morol gwerthfawr Cymru ac fe’i cydnabyddir ar draws y byd fel symbol o ansawdd.

%d bloggers like this: