04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolfan ddringo i anelu’n uwch

MAE Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd i weld sut mae’r ganolfan wedi defnyddio Cyllid Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu – a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth £2.5 biliwn o gymorth i fusnesau ledled Cymru, gan helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi a allai fod wedi’u colli fel arall. Derbyniodd Canolfan Ddringo Boulders gyllid o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru a oedd yn anelu’n benodol at sicrhau swyddi a helpu busnesau i ddatblygu.

Mae’r cyllid wedi galluogi Boulders i ehangu ei arlwy, gan ganiatáu i fwy o gwsmeriaid ddefnyddio’r cyfleuster yn ddiogel – tra’n cadw pellter cymdeithasol. Gwnaeth Boulders ailgynllunio’r cyfleuster er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau COVID, buddsoddi mewn llwyfan digidol newydd i wella effeithlonrwydd, rheoleiddio niferoedd a chyflymu’r broses gyrraedd a chofrestru. Gwnaeth y ganolfan hefyd fuddsoddi mewn byrddau hyfforddi digidol newydd i sicrhau bod rhan o’r ganolfan nad oedd yn cael ei defnyddio lawer yn fwy hygyrch.

Dywedodd Ollie Noakes o Boulders: “Roedd yn rhaid i ni gydnabod bod y ffordd rydyn ni i gyd yn byw, gweithio a chwarae wedi newid ac roedd angen i ni drawsnewid ein busnes er mwyn sicrhau y gallwn oroesi er gwaethaf unrhyw gyfyngiadau ac mewn byd newydd ar ôl COVID. Mae’r cyllid yma wedi caniatáu inni weithredu ar lefel gynaliadwy yn ystod y cyfyngiadau a hefyd wedi ein galluogi i edrych yn ofalus ar y rhannau o’r busnes nad oeddem yn gwneud y defnydd gorau ohonynt a chymryd camau priodol i sicrhau ein bod yn barod i ffynnu wrth i ni addasu i normal newydd. Rwy’n falch iawn o’r gwaith y mae fy nhîm wedi’i wneud tra roedd Boulders ar gau ac mae’n wych gallu ailagor, ac ehangu ein tîm o ganlyniad i’n holl waith.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Nod trydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd oedd helpu busnesau i ddatblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Mae’r coronafeirws wedi newid bywydau pawb – ac roedd y cyllid hwn yn galluogi busnesau i addasu, adeiladu cadernid a gweithredu mewn ffordd sy’n ddiogel rhag COVID. Rwy’n falch iawn o weld sut mae Boulders wedi defnyddio’r cyllid hwn i’w galluogi i fasnachu’n ddiogel ac yn unol â chyfyngiadau COVID, ac rwy’n dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Wrth i atyniadau a busnesau lletygarwch edrych ymlaen at haf prysur, mae llawer o fusnesau eraill wedi defnyddio cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol.

Mae Folly Farm yn Sir Benfro wedi gweithio gyda busnes teuluol yn y Rhyl, Fformiwla K, gan fuddsoddi mewn 18 o gertiau newydd sy’n cael eu pweru gan drydan ar gyfer ei drac rasio Follystone sy’n addas i deuluoedd. Gwnaeth yr archeb gan Folly Farm, a wnaed tra roedd y pandemig ar ei waethaf, alluogi Fformiwla K i ddod â staff yn ôl i’r gwaith a oedd wedi’u rhoi ar ffyrlo ers i’r farchnad dwristiaeth a hamdden gau. Bydd y certiau newydd mwy gwyrdd yn lleihau allyriadau carbon Folly Farm.

Mae’r Coach Brewing Co ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu bar symudol ar gyfer eu busnes a wnaeth eu galluogi i gyrraedd cwsmeriaid a oedd yn gwarchod eu hunain neu’n ynysu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Disgrifiodd y Prif Fragwr a’r Cyfarwyddwr Lloyd Thomas pa mor ddefnyddiol oedd y cyllid o ran cyflymu’r broses o arallgyfeirio a rhoi’r trefniadau ar waith. “Priodasau a digwyddiadau chwaraeon oedd targedau gwreiddiol ein syniad o greu bar symudol. Fodd bynnag, yn ystod y cyfyngiadau symud, gwelsom fod llawer o bobl yn diflasu ar ganiau a chwrw potel gartref a’u bod yn colli mwynhau cwrw drafft yn y dafarn. Gwnaeth yr arian gan Lywodraeth Cymru ein helpu ni i greu ein ‘fan hufen iâ ar gyfer oedolion’, gyda 5 llinell oer iawn ar gyfer casgenni a 2 injan tynnu â llaw ar gyfer casgenni. Pan na allai pobl gyrraedd y dafarn roeddem yn gallu mynd â‘r dafarn atyn nhw!”

“O ran y dyfodol, byddwn yn dychwelyd i’r cynllun gwreiddiol o ran y fan gwrw, ond mae’r cyllid wedi helpu i ‘ddiogelu’ llwybr y bragdy i’r farchnad yn y dyfodol a hefyd wedi creu 5 swydd newydd ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed.”

O dan drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru roedd busnesau sy’n cyflogi staff newydd o dan 25 oed hefyd yn gymwys i gael arian ychwanegol er mwyn helpu i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.

%d bloggers like this: