03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddiad gwyrdd £1.3m yn ysgolion Caerdydd i leihau’r defnydd o ynni

MAE Cyngor Caerdydd wedi buddsoddi dros £1.3 miliwn mewn arbed ynni ar draws 11 o’i ysgolion cynradd, uwchradd ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) , fel rhan o’i waith i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Disgwylir i’r mentrau leihau allyriadau carbon gweithredol y Cyngor yn sylweddol hyd at 20% ar draws yr 11 safle – Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Ysgol Gynradd Glyncoed, Ysgol Gynradd Hywel Dda, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf, Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Uwchradd Illtud Sant, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn – yn ogystal ag arbed tua £185,000 y flwyddyn.

Bydd disgyblion yn dysgu am fuddion y gwaith gan gynnwys goleuadau gwell a buddion iechyd o waredu’r goleuadau fflwroleuol presennol drwy sesiynau ymgysylltu a gynllunnir â thimau eco’r ysgolion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Ysgolion yw rhai o’r defnyddwyr ynni mwyaf yn ein hystâd felly mae uwchraddio technolegau ynddynt yn rhan bwysig o’n strategaeth lleihau ynni. Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, parhau i fuddsoddi yn y mathau hyn o brosiectau, gan barhau i wneud ein dewisiadau ynni mor glyfar â phosibl, yw’r peth iawn i’w wneud.”

Cyflawnwyd y gwaith gan y cyngor drwy’r fenter caffael Re:fit, gyda chefnogaeth y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Partneriaethau Lleol a chyllid drwy Salix Finance, sefydliad a ariennir gan lywodraeth y DU sy’n darparu benthyciadau di-log i’r sector cyhoeddus gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni.

Fel rhan o’r prosiect, mae amrywiaeth o dechnolegau ynni-effeithlon newydd wedi’u gosod ar draws yr ysgolion gan gynnwys uwchraddio goleuadau LED, paneli solar, rheolaethau oergelloedd a rhewgelloedd, inswleiddio falfiau a phibellau, yn ogystal â Systemau Rheoli Ynni Adeilad (BEMS) newydd, sy’n gwneud y gorau o reolaethau adeilad a’i ddefnydd o ynni.

Bydd y technolegau newydd yn sicrhau llai o ddefnydd ac arbedion carbon gweithredol o flwyddyn i flwyddyn yn ystod eu hoes.  Bydd benthyciad Salix Finance yn cael ei ad-dalu dros ddeng mlynedd o’r arbedion a wneir ar filiau ynni, gan wneud y cyllid yn hunangynhaliol. Unwaith y caiff y benthyciad ei ad-dalu, bydd modd defnyddio’r arbedion parhaus ar gyfer blaenoriaethau’r gyllideb.

Ychwanegodd Liam Gillard, rheolwr rhaglen Cymru yn Salix Finance:

“Mae gweithio ar y prosiect pwysig hwn ar draws 11 o ysgolion ym mhrifddinas Cymru wedi bod yn wych. Bydd y gwaith effeithlonrwydd ynni sydd wedi’i osod o fudd sylweddol i’r disgyblion, y staff, y ddinas ac wrth gwrs y blaned. Edrychwn ymlaen at gefnogi cynlluniau ôl-ffitio pellach wrth i’r cyngor gyflawni ei strategaeth Caerdydd Un Blaned.”

Mae’r buddsoddiadau’n rhan o Strategaeth Un Blaned uchelgeisiol Cyngor Caerdydd – ymateb i’r argyfwng hinsawdd sy’n ceisio gwneud yr awdurdod lleol yn garbon niwtral erbyn 2030.  Mae’r strategaeth eisoes wedi arwain at gwblhau fferm solar 9MW yn Ffordd Lamby yn ogystal â dechrau’r gwaith adeiladu ar rwydwaith gwresogi ardal carbon isel a phlannu miloedd o goed ar draws ardal y cyngor. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynlluniau ôl-ffitio pellach, systemau draenio cynaliadwy ac adeiladau carbon sero-net newydd.

Mae gwaith ar y prosiect ôl-ffitio ysgolion newydd ei gwblhau, ar ôl dechrau ym mis Gorffennaf 2021. Yn dilyn ei lwyddiant, mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu buddsoddi mewn rhaglenni uwchraddio ôl-ffitio ychwanegol ar draws ei bortffolio eiddo, yn unol â’r strategaeth Caerdydd Un Blaned.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: “Rydym yn benderfynol o gyflawni ein nod o fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030 a thros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi mewn nifer o fentrau pwysig, megis dechrau trydaneiddio ein fflyd, datblygu ein rhwydwaith o lwybrau beicio a chyflwyno cynlluniau ar gyfer Rhwydwaith Gwresogi Ardal carbon isel, i gefnogi’r nodau hyn. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Salix Finance ers 2017 i weithred

%d bloggers like this: