04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor Abertawe

DISGWYLIR i Gyngor Abertawe fuddsoddi’r swm uchaf erioed mewn cymunedau lleol, gofal cymdeithasol ac addysg y flwyddyn nesaf fel rhan o gynigion cyllidebol i’w hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf.

Bydd adroddiad i’r Cabinet yr wythnos nesaf yn tynnu sylw at flwyddyn anghyffredin sydd wedi cynnwys adeiladu ysbyty, ysgolion newydd a gwaith adfywio mawr yn rhannau o’n dinas.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi sut mae’r cyngor wedi cefnogi miloedd o bobl mewn perygl o gael COVID-19 ac wedi cefnogi gwasanaethau dyddiol hanfodol yn ystod y pandemig.

Fodd bynnag, mae’r cyngor yn awr yn addo y bydd preswylwyr yn gweld £22m ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau dros y misoedd nesaf, sef y buddsoddiad uchaf erioed.

Bydd gwasanaethau cymunedol fel glanhau strydoedd, gwelliannau ffyrdd a chasglu sbwriel yn cael rhagor o arian. Ar yr un pryd, buddsoddir miliynau o bunnoedd mewn addysg ac ysgolion yn ogystal â gwasanaethau gofal cymdeithasol, y mae pob un ohonynt wedi gweithio’n ddiflino i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Ymysg y prif benderfyniadau o ran y gyllideb, gofynnir i’r Cabinet gytuno ar fuddsoddiadau mewn gwasanaethau sy’n uwch na chwyddiant ar draws y cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys:

·       £6.85m ychwanegol ar gyfer addysg

·       £4m ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol

·       Dros £6m ar gyfer glanhau ffyrdd a gwasanaethau cymunedol eraill

·       Pwerau gwario o oddeutu £1.8m y dydd ar gyfer pobl Abertawe

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, “Yr adeg hon y llynedd, nid fyddai unrhyw un wedi gallu dychmygu beth fyddai effaith y pandemig arnom. Er hynny, nid wyf erioed wedi bod mor falch o’n cymunedau a staff ymroddedig y cyngor ag yr ydwyf heddiw.

“Mae angen cefnogaeth gwasanaethau cyngor lleol ar bobl ddiamddiffyn, y rheini sy’n gwarchod, pobl ifanc a’r rheini sy’n wynebu caledi yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Bydd ein buddsoddiadau’r flwyddyn nesaf mewn gwasanaethau dyddiol hanfodol fel ffyrdd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd ac ailgylchu yn eu cefnogi.

“Ar hyn o bryd cefnogir plant i ddysgu gartref. Mae’n brofiad newydd a heriol iddyn nhw, eu teuluoedd a’u hathrawon. Ond maent yn ymdopi. Fel cyngor, rydym wedi darparu 8,000 o liniaduron i blant a fyddai fel arall wedi’i chael hi’n anodd dal i fyny.

“Yng nghyllideb y flwyddyn nesaf bydd mwy o gymorth i ysgolion, felly beth bynnag sy’n digwydd, bydd disgyblion yn parhau i gael mynediad at ddysgu.

“Rydym wedi penodi 140 o weithwyr gofal cymdeithasol newydd ac wedi agor dau gartref gofal er mwyn creu mwy o le i edrych ar ôl y bregus a’r henoed.

“Roedd yn rhywbeth mawr ei angen a byddwn yn parhau i’w cadw’n ddiogel a chefnogi’r staff gofalu sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Stewart, diolch i reolaeth arian gref er gwaethaf pwysau COVID-19, yr hinsawdd economaidd ansicr a’r galw cynyddol am wasanaethau, na fyddai angen i neb golli swydd yn orfodol eleni.

Mae’r adroddiad i’r Cabinet yn rhagweld cynnydd cyffredinol  o oddeutu £27m mewn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y 5 mlynedd nesaf.

Yr adran addysg fydd yn parhau i gael y rhan fwyaf o’r gyllideb, gyda chyfanswm ei chyllideb yn cyrraedd £188.4m. Bydd cyfran y gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys Tlodi a’i Atal, yn cynyddu £128.6m. Parheir i fuddsoddi hefyd yn y rhaglen gyfalaf fwyaf erioed sy’n werth £150m, i wella ac ailadeiladu ysgolion.

Bydd £6.1m ychwanegol hefyd ar gyfer gwasanaethau fel gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth a ffyrdd, y gwasanaethau diwylliannol, llyfrgelloedd a pharciau, gan olygu y caiff £64.4m ei wario ar y gwasanaethau hyn. Mae hyn er mwyn darparu arian ychwanegol dros dro oherwydd effaith pandemig COVID-19.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart ei fod yn rhagweld y bydd y cynnydd cyfartalog yn nhreth y cyngor y flwyddyn nesaf o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru ac ychwanegodd: “Mae’r cyfanswm a godir gan dreth y cyngor yn sylweddol is na’r hyn rydym yn ei wario ar addysg a thua’r un faint â’r hyn rydym yn ei wario ar wasanaethau cymdeithasol er mwyn gofalu am ein plant diamddiffyn a’r henoed.

“Bydd pob ceiniog o’r £4m ychwanegol a godir o’r cynnydd yn mynd tuag at addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a’n cymunedau. Ni chaiff yr un geiniog o’r cynnydd yn nhreth y cyngor ei defnyddio i dalu am yr arena nac unrhyw ddatblygiadau eraill yng nghanol y ddinas, ac rydym wedi sicrhau mai dyma fydd yr achos tan o leiaf 2026.

Meddai, “O ganlyniad i’r hyn a allai fod yn setliad cyllidebol mwyaf cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru mewn degawd, bydd gennym y cyfle i fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn rhagor ar flaenoriaethau pobl Abertawe’r flwyddyn nesaf.

“Rydym eisoes yn gwneud mwy gyda llai drwy fod yn gallach, yn fwy effeithiol, ac yn fwy effeithlon. Rydym wedi lleihau gwariant swyddfa gefn, awtomeiddio gwasanaethau a chael gwared ar fân-reolau diangen ac mae hyn wedi helpu i dorri costau’r hyn rydym yn ei wneud o filiynau o bunnoedd.

Wrth i ni newid ein ffordd o weithio’n sylweddol, rydym wedi llwyddo i arbed mwy na £70m yn y pum mlynedd diwethaf.”

Meddai: “Roedd y cyngor yno i bobl Abertawe yn ystod y pandemig a bydd y cyngor yno i’w cefnogi drwy’r adferiad. Bydd ein cynigion cyllidebol yn helpu’n cymunedau i gymryd y cam hyderus nesaf tuag at ddyfodol ein dinas.

%d bloggers like this: