04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bwrdd Gweithredol Bach â chyfrifoldeb MAWR

MAE Bwrdd Gweithredol cysgodol newydd ar hyd lle ac er bod yr aelodau’n fach o gorff efallai, mae ganddynt gyfrifoldeb MAWR……gofalu bod y Bwrdd Gweithredol go iawn yn cyflawni ei gynllun pum mlynedd!

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi recriwtio 10 o aelodau i’r Bwrdd Gweithredol Bach a fydd yn dilyn hynt y Bwrdd Gweithredol go iawn dros y flwyddyn nesaf, gan roi gwell dealltwriaeth i bobl o’u prif flaenoriaethau a phrosiectau.

Er mai lleisiau bach sydd ganddynt o bosib, maent yn meddu ar bersonoliaeth fawr ac eisoes wedi dechrau gofyn rhai cwestiynau pwysig i’r Cynghorwyr.

Y cyntaf oedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, a gyfarfu â ‘Emlyn Bach’ ym mhencadlys newydd S4C Yr Egin, lle wynebodd nifer o gwestiynau am y gobeithion o ran y Fargen Ddinesig £1.3 biliwn.

Bydd mwy o aelodau’r Bwrdd Gweithredol Bach yn cael cyfle i gwrdd â’r aelodau go iawn a chael yr holl fanylion am y prif flaenoriaethau yn y misoedd nesaf.

“Mae wedi bod yn wych cael cyfarfod ag Emlyn Bach a chyflwyno un o’n prif brosiectau iddo,” dywedodd y Cynghorydd Dole.

“Nid oedd yn hir cyn cyrraedd y pwynt, ac roedd hynny’n ddigon teg. Rwy’n siŵr y bydd yn dal ati i’m cadw ar flaenau fy nhraed.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau gweld beth rydym ni – fel Bwrdd Gweithredol – yn ei wneud fel rhan o’r prosiect cyffrous hwn gyda’n haelodau dawnus iawn o’r bwrdd gweithredol bach.”

Y llynedd, lansiodd y Bwrdd Gweithredol ei gynllun pum mlynedd ‘Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin’, gan amlinellu bron 100 o brosiectau, cynlluniau neu wasanaethau blaenoriaeth maent am eu cyflawni yn ystod eu gweinyddiaeth.

Emlyn Bach from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Mae pob prosiect yn buddsoddi mewn maes allweddol i wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y sir.

"Mae pob un o'r nodau hyn yn cyfateb yn agos i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sy'n golygu bod cynnwys aelodau iau ein cymuned hyd yn oed yn fwy priodol," meddai'r Cynghorydd Dole.

"Mae'r prosiect hwn yn llawer o hwyl, ond mae iddo ystyr arwyddocaol. Rydym am wneud gwelliannau i Sir Gaerfyrddin a fydd yn sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol, fel ein 10 aelod bach, gyfleoedd da o ran gwaith, cymunedau cefnogol, a llefydd gwych i'w mwynhau wrth iddynt dyfu'n oedolion a magu eu teuluoedd eu hunain."

Dewiswyd pob un o'r aelodau bach gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol go iawn o'u hardaloedd eu hunain.

Dyma nhw:

· Emlyn Bach – Lewis Thomas, o Lannon

· Mair Bach – Haf Jones, o Lanyfferi

· Dai Bach – Ryan Williams, o Lanaman

· Jane Bach – Nicole Rugg, o Bentywyn

· Linda Bach – Alwena Owen, o Lanybydder

· Hazel Bach – Emilia May Fillmore, o Gastellnewydd Emlyn

· Peter Bach – Gethin Williams, o Langynnwr

· Philip Bach – Llŷr Davies, o Sanclêr

· Cefin Bach – Ifan Davies, o Ddryslwyn

· Glynog Bach – Gruffydd Rees, o Frynaman