04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bwrdd Gweithredol Cyngor Caerfyrddin i drafod dyfodol Consortiwm Rhanbarthol Gwella Ysgolion

BYDD Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod dyfodol yr awdurdod fel rhan o gonsortiwm gwella ysgolion rhanbarthol ERW (y Gweithlu Rhanbarthol Addysgol).

Mae’r Cyngor, ynghyd ag awdurdodau yng Ngheredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe, wedi bod yn rhan o’r consortiwm ers ei sefydlu yn 2014.

Fodd bynnag, gallai’r Bwrdd Gweithredol benderfynu tynnu’n ôl o’r consortiwm i gefnogi trefniant newydd ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion yn seiliedig ar ranbarth Bae Abertawe.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi cyflwyno rhybudd i dynnu’n ôl.

Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi cydnabod llwyddiannau niferus y consortiwm dros y blynyddoedd diwethaf, ond dywedodd ei bod yn briodol i ni drafod yr hyn oedd orau i Sir Gaerfyrddin wrth edrych tua’r dyfodol.

“Mae ERW wedi cyflawni llawer o bethau cadarnhaol; fodd bynnag, mae’n deg dweud ei fod hefyd wedi llywio drwy gyfnodau anodd gyda newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol a rheolaethol,” meddai. “Mae ardal ddaearyddol fawr ERW wedi ychwanegu at yr heriau hyn.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi gweithio gyda’n cymdogion, ond mae’n bryd adolygu’r trefniadau rhanbarthol ac o bosibl aildrefnu gyda phartneriaethau eraill ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe a allai ddod â manteision mwy i blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin.”

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar 16 Mawrth (2020) i adolygu sefyllfa’r awdurdod, ond mae wedi addo gweithio gyda phartneriaid i sicrhau proses bontio ddi-dor a chadarn pe bai Aelodau’n penderfynu tynnu’n ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ac ar draws ffiniau awdurdodau lleol lle mae hyn yn cynnig manteision i’n cymunedau.

“Mae’n briodol cydnabod cynnydd sylweddol ERW dros y 12 mis diwethaf, o ran staffio a threfniadaeth, ond rhaid i ni fod yn hyderus ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau bosibl i’n hysgolion ac mae’n bryd ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn.”

%d bloggers like this: