MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gofyn i unrhyw un dros 30 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gysylltu â’r bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn COVID-19 cyntaf eto.
Os ydych rhwng 30 a 49 oed ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl.
Y ffordd hawsaf o ofyn am apwyntiad yw trwy ffurflen ar-lein ar wefan y bwrdd iechyd https://biphdd.gig.cymru/ neu https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u
Gallwch ganslo neu aildrefnu apwyntiad cyfredol, trwy ffonio’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Ein polisi yw gadael neb ar ôl felly nid yw’n rhy hwyr i ofyn am frechiad cyntaf os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 neu rhwng 30 a 49 oed. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu apwyntiad i chi yn eich canolfan brechu torfol agosaf. ”
Mae canolfannau brechu torfol yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl.
Mae cymorth cludiant ar gael i bobl sy’n methu â mynychu apwyntiad brechu mewn unrhyw fodd arall. Ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 os oes angen cymorth arnoch i ddod i’ch apwyntiad.
Ar ôl i chi gael eich brechlyn, rhaid i chi barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 (pellhau cymdeithasol, gorchuddion wyneb) i amddiffyn y rhai o’ch cwmpas.
Er na allwch ddal COVID-19 o’r brechlyn, mae’n bosibl eich bod wedi dal COVID-19 a pheidio â sylweddoli bod gennych y symptomau tan ar ôl cael eich brechu. Symptomau amlycaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o’r canlynol:
Peswch parhaus newydd; tymheredd uchel neu colli, neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl.
Mae gan rai pobl hefyd ddolur gwddf, cur pen, tagfeydd trwynol, dolur rhydd, cyfog a chwydu.
Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf trwy ffonio 119 neu ymweld â https://gov.wales/coronavirus. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am symptomau, ewch i www.111.wales.nhs.uk.
More Stories
Police appeal for information following altercation at Boathouse in Saundersfoot
White Collar Boxing night raises over £1,000 for children’s nursing services
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant