04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bydd arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn llunio prosiect lles Pentre Awel

MAE Prifysgol Caerdydd yn creu partneriaeth i gefnogi Pentre Awel – prosiect iechyd a lles sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Llanelli.

Nod Pentre Awel, sef y prosiect adfywio mwyaf erioed yn ne-orllewin Cymru, yw dod â’r gwyddorau bywyd ac arloesi byd busnes, ymchwil a’r byd academaidd ynghyd, gan drawsnewid iechyd a lles i bawb.

Bydd y buddsoddiad yn creu tua 1,800 o swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda ac yn rhoi hwb o £467 miliwn i’r economi dros gyfnod o 15 mlynedd.

Bydd y Cyngor, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn darparu’r prosiect 83 erw, a ariennir gan Gyngor Sir Gâr, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a buddsoddwyr sefydliadol.

Ym Mhentre Awel bydd academyddion, gweithwyr gofal proffesiynol, clinigwyr, mentrau, arloeswyr, cleifion, preswylwyr ac ymchwilwyr oll ar yr un safle, a hynny mewn adeiladau pwrpasol o’r radd flaenaf fydd yn defnyddio technoleg glyfar.

Yn rhan o’r prosiect, mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi tîm prosiect Pentre Awel. Os hoffech chi wybod rhagor am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd ym Mhentre Awel, ebostiwch Barbara Coles, Swyddog Arloesi Pentre Awel, neu Sue Bevan, Swyddog Arloesi Pentre Awel.

Dyma a ddywedodd David Davies, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

“Roeddwn i’n falch iawn o weld dechrau’r prosiect cyffrous hwn a chael llongyfarch rhai o’r bobl sydd wedi gweithio mor galed arno. Mae Llywodraeth y DU yn falch o’n cyfraniad ariannol a fydd, ar y cyd â’n partneriaid, yn helpu i roi’r cynllun hynod uchelgeisiol hwn ar waith. Mae ganddo’r potensial i drawsnewid bywydau drwy greu datblygiadau arloesol ym maes iechyd a lles, yn ogystal â rhoi hwb economaidd i’r ardal. Dyma ffyniant bro go iawn.”

Meddai y Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Rydyn ni’n falch iawn i groesawu Prifysgol Caerdydd fel partner ym Mhentre Awel. Mae hwn yn ddatblygiad uchelgeisiol a chyffrous i Lanelli, sydd â’r gallu i drawsnewid y ddarpariaeth iechyd a llesiant yn lleol. Bydd yn arloesol o ran ffyrdd newydd o feddwl am iechyd a llesiant ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a bydd yr ymchwil a’r datblygu yn helpu i herio ffiniau’r hyn rydyn ni’n ei ddeall ynghylch beth mae byw’n dda yn ei olygu, gan wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”

Yn rhan o Bentre Awel, adeiledir Canolfan Cyflenwi Clinigol fydd yn cynnig gofal amlddisgyblaethol mewn lleoliad cymunedol, ac wrth ei hymyl bydd Canolfan Ymchwil Glinigol fydd yn canolbwyntio ar ymchwil, arloesi a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd:

“Gan weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein nod yw meithrin perthynas agosach â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn y rhanbarth, gan ehangu ein harbenigedd drwy effeithio’n ystyrlon ar iechyd a lles y boblogaeth, a hynny’n rhan o ecosystem gyfannol fydd yn trawsnewid arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cefnogi rhaglenni addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau fydd yn alwedigaethol berthnasol ym maes meddygaeth, fferylliaeth, optometreg, deintyddiaeth a gwyddorau gofal iechyd, a bydd Pentre Awel yn cynnig addysg bwrpasol a phenodedig sydd wedi’i theilwra’n benodol at ddibenion pob disgyblaeth.

Meddai yr Athro Ian Weeks, Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd:

“Nid yw prosiect lles o’r math hwn erioed wedi ei dreialu yn y DU o’r blaen. Nod y cynllun yw lleihau gofynion gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd drwy geisio darganfod dulliau eraill a hygyrch o drin pobl, a bydd y rhain yn gallu manteisio ar arbenigedd y Coleg ym maes arloesi clinigol.

“Bydd Pentre Awel yn datblygu rhwydwaith sy’n denu cymorth y trydydd sector ar y cyd ag arbenigwyr gofal iechyd i roi cyngor, arweiniad a chymorth o safon uchel fel y gellir gwneud penderfyniadau cytbwys a grymuso dewisiadau ar gyfer unigolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yn hwyluso cwmnïau technoleg meddygol a gwyddor bywyd i wneud gwerthusiadau yn y byd go iawn, treialon clinigol a’r broses o fesur cynnyrch, gwasanaethau a phrosesau arloesol sy’n seiliedig ar werth.”

Ym Mhentre Awel bydd canolfan hamdden â phwll nofio 25 metr ac wyth lôn yn ogystal â phwll i ddysgwyr, pwll hydrotherapi, campfa yn ogystal â stiwdios dawns, troelli ac amlbwrpas.

Mae’r cyngor wedi penodi Bouygues UK – a gwblhaodd Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar – i ddylunio ac adeiladu Parth Un sy’n defnyddio tua £87 miliwn o fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus.

 

%d bloggers like this: