03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bydd pawb yn cael budd o Gyfrifiad 2021 medd Ellen ap Gwynn

BYDD gofyn i gartrefi ledled Ceredigion gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 y gwanwyn hwn.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r cyfrifiad ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir i ni o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ers 1801, ac eithrio 1941.

Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb, o’r llywodraeth ganolog i sefydliadau fel cynghorau ac awdurdodau iechyd, i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a Lloegr. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn llywio ble y caiff biliynau o bunnoedd o gyllid cyhoeddus ei wario ar wasanaethau fel trafnidiaeth, addysg ac iechyd – ar lwybrau beicio, ysgolion a deintyddfeydd.

Mae Llanddewi Brefi, Llanon, Ponterwyd ac Aberteifi yn gwneud y gorau o’u meysydd chwarae a hamdden a ddatblygwyd o ganlyniad i ddata’r cyfrifiad, a helpodd i sicrhau cyfraniad o Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.

Cafodd data o Gyfrifiad 2011 eu defnyddio i wneud cais am gyllid ardal gymunedol er mwyn dangos cymaint y byddai trigolion lleol yn elwa ar welliannau i’w meysydd chwarae lleol. O helpu gydag iselder i gael lle i gymdeithasu ac ymarfer corff, mae’r meysydd chwarae hyn yn amhrisiadwy wrth gadw cymunedau yn fyw ac yn iach. Dan arweiniad swyddog datblygu chwarae Cyngor Ceredigion, Cathryn Morgan, cafwyd cymeradwyaeth i wella’r mannau cyhoeddus hyn.

Roedd y cyllid yn golygu bod modd adnewyddu dau barc chwarae, gosod arwyneb newydd ar barc sglefrio, a thrawsnewid cwrt tennis yn ardal chwarae aml-ddefnydd.

Mae’r ardaloedd hamdden hyn ar eu newydd wedd yn cynnig lle diogel a difyr i bobl ddod ynghyd ac yn chwarae rôl hanfodol yng nghalon bywyd cymunedol Ceredigion.

Dywedodd Cathryn Morgan, Cydlynydd Teuluoedd yn Gyntaf a Ffoarduriaid Cyngor Sir Ceredigion:

“Heb yr ystadegau o Gyfrifiad 2011 byddai wedi bod yn anodd iawn crynhoi’r dystiolaeth yr oedd ei hangen ar y corff ariannu i lwyddo i gael y grant.”

Yn y cyfamser, helpodd Cyfrifiad 2011 i nodi Ceredigion (a thri awdurdod lleol arall yng Nghymru) fel ardaloedd targed ar gyfer Cynllun Cronfa Arloesi Arfor sy’n werth £2 filiwn. Nododd data o’r cyfrifiad blaenorol fod Ceredigion yn ardal addas ar gyfer y cynllun, gan fod cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y sir, ac oherwydd y mewnlif o bobl hŷn a’r all-lif o bobl iau. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron £500,000 i Geredigion, er mwyn cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid Cymraeg yn yr ardal.

Cyfrifiad 2021 fydd yr un cyntaf i gael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi’r holiadur ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu dyfeisiau tabled.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae’r cyfrifiad yn ein helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel addysg, gofal iechyd a chymdeithasol, diogelu’r cyhoedd a thrafnidiaeth. Felly mae’n bwysig iawn bod pawb yng Ngheredigion yn cymryd rhan i sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu gwasanaethu’n iawn. Bydd cael y gyfradd ymateb orau bosibl ar gyfer y cyfrifiad yn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar ddata cywir o ansawdd uchel, ac yn adlewyrchu anghenion preswylwyr Ceredigion dros y ddeg mlynedd nesaf.”

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad yn cael ei gynnal ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi yn cael llythyrau â chodau ar-lein yn fuan yn esbonio sut y gallant gymryd rhan. Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a’ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i’r rhai sy’n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy’n dymuno cwblhau’r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar bapur. Mae botymau “Cymraeg” ac “English” er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar-lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am sut i ateb y cwestiynau, ewch i wefan y Cyfrifiad.

%d bloggers like this: