04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Bydd y Cwricwlwm Newydd yn realiti mewn 95% o ysgolion Cymru Mis Medi

MAE Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi gwneud y Gorchymyn Cychwyn sydd yn cadarnhau’r 100 o ysgolion uwchradd a gynhelir a’r 4 uned cyfeirio disgyblion sydd wedi datgan eu bod am gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn eu hysgolion ar gyfer dysgwyr blwyddyn 7 ym mis Medi 2022.

Meddai Jeremy Miles:

“Roedd hyn mewn ymateb i’r hyblygrwydd a roddais ym mis Gorffennaf 2021, lle gallai ysgolion uwchradd ddewis cyflwyno’r cwricwlwm newydd ar gyfer blwyddyn 7 yn 2022 ac yna o flwyddyn i flwyddyn, neu ei gyflwyno ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 yn 2023 ac yna o flwyddyn i flwyddyn. O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu’r cwricwlwm newydd, a bydd y cymwysterau cyntaf yn cael eu dyfarnu yn 2027.

Rwy’n falch iawn bod bron i hanner yr ysgolion uwchradd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm eleni, gan gynnwys 13 o ysgolion arbennig, 9 ysgol cyfrwng Cymraeg, ac 13 o ysgolion dwyieithog (pob categori). Mae 6 o’r rhain yn ysgolion pob oed/ysgolion canol. Daw’r ysgolion uwchradd sydd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm o 2022 ymlaen o bob rhan o Gymru, yn wledig ac yn drefol, yn fawr ac yn fach, a chydag ystod o broffiliau a phrofiadau gwahanol. Rwyf hefyd yn falch o glywed am y gwaith cadarnhaol ac adeiladol y mae ysgolion sy’n cyflwyno’r cwricwlwm o fis Medi 2023 ymlaen yn ei wneud yn eu clystyrau i ddatblygu, treialu a gwerthuso eu cwricwlwm newydd. Mae pob ysgol yn parhau i gael cymorth pwrpasol gan eu gwasanaethau gwella ysgolion, ac yn medru rannu dulliau, cyfleoedd a heriau drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol. Bydd y cymorth hwn yn parhau ar ôl mis Medi wrth inni ddal ati i ddatblygu a gwella cwricwla ysgolion.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn garreg filltir allweddol ac mae’n rhan o gam olaf y ddeddfwriaeth i gefnogi’r cwricwlwm newydd. O fis Medi ymlaen, bydd ein cwricwlwm newydd yn realiti a bydd 95% o ysgolion a phob lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir yng Nghymru yn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hwn yn ddiwygiad unwaith mewn cenhedlaeth ac rwy’n falch iawn o frwdfrydedd, cymhelliant a chefnogaeth barhaus ymarferwyr mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a’r arloesi gwirioneddol a thrawiadol sy’n digwydd ledled Cymru.”

%d bloggers like this: