04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Bydd yr hyn mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn arwain at dorri hawliau dynol yn ddifrifol” medd Llywodraeth Cymru

MAE Llywodraeth Cymru wedi condemnio Lywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, am eu hymosodiad ar hawliau dynol.

Gwnaeth dau Weinidog ladd ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â thri darn allweddol o’u deddfwriaeth yr oeddent yn eu brandio fel rhai a oedd yn ddidostur, yn anghyfansoddiadol ac yn gwbl groes i werthoedd Cymru ac egwyddorion sylfaenol y Senedd.

Amlinellodd y Gweinidogion hefyd gynllun newydd beiddgar i ryddhau adroddiadau sy’n benodol i Gymru i’r Cenhedloedd Unedig, ac i ystyried Bil Hawliau i Gymru.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol:

“Ni ddylai pobl fod o dan unrhyw gamargraff, mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn dangos yn glir eu hymdrechion bwriadol i danseilio ein holl hawliau dynol sylfaenol.

Rydyn ni’n cyfarfod dan gysgod y rhyfel yn Wcráin, a bydden ni’n disgwyl y gallen ni sefyll yn gadarn gyda Llywodraeth y DU ar hawliau dynol ar hyn o bryd – ond dyw hynny ddim yn bosibl.

Mae eu cynigion yn rhoi’r arwydd i’r byd fod y DU yn cefnu ar hawliau dynol. Mae eu hymdrechion yn ceisio lleihau, nid cryfhau hawliau dynol.

Os caiff y cynigion hyn eu dwyn i gyfraith, bydden nhw’n gwanhau hawliau holl ddinasyddion y DU. Bydden nhw’n lleihau mynediad at gyfiawnder ac yn targedu’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys pobl anabl a’r rhai sy’n byw mewn tlodi.

Mae’r cynigion hefyd yn ceisio gwahaniaethu rhwng pobl neu achosion “haeddiannol” a “anhaeddiannol”, sy’n anelu ergyd at wraidd yr egwyddor y dylai fod gan bawb yr un hawliau dynol â’i gilydd.”

Wrth gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Hawliau Dynol ac i fod yn Genedl Noddfa, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rydyn ni wedi gwneud ein gwrthwynebiad i’r Biliau hyn yn gwbl glir ac yn gadarn ar sawl achlysur. Maen nhw’n hollol anghydnaws â’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni yng Nghymru.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn iawn yn yr hyn a ddywedan nhw am y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau yn benodol. Mae pump o Arbenigwyr annibynnol y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi’r rhybudd mwyaf difrifol a thorcalonnus. Maen nhw’n datgan y byddai’r Ddeddf yn tanseilio’n ddifrifol y gallu i amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu, gan gynnwys plant. Byddai’n caniatáu i fenywod sydd wedi dioddef trais ar sail rhywedd gael eu gwrthod rhag dod i’r DU yn hytrach na chaniatáu iddynt geisio noddfa. Dywedodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Fasnachu mewn Pobl, Siobhán Mullally, fod hyn yn ‘… groes i gyfraith ryngwladol’.”

Yn olaf, ymrwymodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol i gynllun gweithredu manwl a fydd yn ystyried ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, a allai arwain o bosibl at Fil Hawliau i Gymru.

Dywedodd y Gweinidogion:

“Os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddilyn y llwybr dinistriol a niweidiol hwn, hoffai Llywodraeth Cymru ystyried yr hyn a allai gael ei gyflawni drwy Fil yng Nghymru.

Diben Bil o’r fath fyddai cryfhau hawliau dynol a lliniaru, cyn belled ag y bo modd, effeithiau negyddol camau gweithredu gan Lywodraeth y DU.

Byddwn hefyd, am y tro cyntaf, yn cyhoeddi ein hymateb ein hunain i’r Cenhedloedd Unedig ar sut yr ydym wedi hyrwyddo hawliau yng Nghymru. Bydd hwn yn gam sylweddol ac yn dangos ein bod ni’n cymryd ein cyfrifoldebau a’n hymrwymiadau o ddifrif.”

 

%d bloggers like this: