03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Caban Cymunedol Cas-gwent wedi ail-agor i gynnig cymorth lles

Ail-agorodd Caban Cymunedol Cas-gwent diwedd mis Mai – am y tro cyntaf ers i Bandemig Covid-19 arwain at ei chau dros dro. Mae’r Caban bellach ar agor i’r cyhoedd, felly anogir trigolion lleol i ddysgu mwy am sefydliadau lles a chyfleoedd cymunedol yng Nghas-gwent a de Sir Fynwy.

Wedi’i leoli yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent, mae’r Caban yn gydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Sir Fynwy, ac mae’n gweithredu fel canolbwynt i’r gymuned leol ac i fudiadau gwirfoddol.  Mae’n fan lle gall ystod eang o sefydliadau sy’n canolbwyntio ar les fod â sylfaen, yng nghanol y gymuned.  Mae hyn hefyd yn creu lle gwych ar gyfer cydweithredu a chydweithio, yn ogystal â chyfle galw heibio i aelodau o gymuned y dref gael gwybod ynghylch yr holl wasanaethau a digwyddiadau lles ar garreg eu drws.

Daeth dros ddwsin o sefydliadau gwybodaeth a chyngor lleol i’r agoriad, gan gynnwys Mind Monmouthshire, Autism Awareness, Papyrus, Monmouthshire Housing, Cyfannol Women’s Aid a’r gwasanaeth cyfeillio Ffrind i Mi.

Dywedodd Trish Edwards, Pennaeth Gwasanaeth dros Fwrdeistref Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

”Mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i’r timau i wybod y bydd y cyhoedd unwaith eto’n elwa o’r gwasanaethau a ddarperir gan y Caban.  Roedd gwir deimlad o gyffro gan yr aelodau niferus o’r gymuned a fynychodd yr agoriad a chefnogodd tîm arlwyo’r ysbyty gyda stondin gacennau blasus [aeth y rhoddion i elusennau]. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb, cefnogi ein cymuned leol a hyrwyddo lles ar bob cyfle.”

Daeth y Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, i’r digwyddiad a dywedodd:

“Mae’n wych gweld y cyfleuster cymunedol hanfodol hwn ar agor i’r cyhoedd unwaith eto.  Rydym yn gwybod bod gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel yn hanfodol i helpu pobl i aros yn iach yn eu cymunedau ac mae hyn yn lle gwych i bobl gael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth honno tra’n dysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned leol.”

%d bloggers like this: