DYWEDODD y cyngor sir y gallai ysgol gynradd fechan iawn yng nghanol Powys gau hwyrach yn y flwyddyn os bydd y Cabinet yn rhoi sêl bendith wythnos nesaf.
Mae Cyngor Sir Powys am ad-drefnu’r ddarpariaeth gynradd yn y sir fel rhan o’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030 ac yn cynnig cau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydieithon o 31 Awst 2022.
Ar ddechrau’r flwyddyn, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid hwn yn ffurfiol, a chafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref. Yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, derbyniwyd dros 250 o wrthwynebiadau.
Ar ddydd Mawrth 8 Chwefror, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn trafod yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau gan ofyn iddynt gymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydieithon o 31 Awst 2022, gyda’r disgyblion i fynychu ysgol arall agosaf.
Mae Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn amlinellu pryderon fod nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, ac i’r rheiny, mae’r ganran fesul disgybl o’r gyllideb yn uwch na chyfartaledd Powys i ysgolion cynradd.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhelliad i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydieithon, byddai disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion eraill yn yr ardal. Byddai hynny’n golygu y bydd yr addysg y byddan nhw’n ei dderbyn yn fwy tebyg i’r model safonol o ddarparu addysg yn yr ardal gan helpu i sicrhau mynediad teg i’r system addysg ym Mhowys.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo:
“Ar ôl trafod y gwrthwynebiadau’n ofalus, byddaf yn argymell i’r Cabinet eu bod yn cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanfihangel Rhydieithon.
“Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn wireddu hyn trwy gyflwyno ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
“Mae gennym strategaeth uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl a haeddiannol i’n dysgwyr. Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau rhoi’r strategaeth ar waith, byddwn yn wynebu rhai penderfyniadau anodd wrth i ni geisio mynd i’r afael â rhai heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys sy’n cynnwys canran uchel o ysgolion bach yn y sir, nifer y disgyblion yn syrthio a nifer fawr o lefydd gwag.
“Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn. Nid yn unig y mae wedi bod yn destun her sylweddol gan uwch-arweinwyr y cyngor ar bob cam o’r ffordd, ond fe’i ddatblygwyd er budd y dysgwyr sydd wedi bod ar flaen ein trafodaethau a’n penderfyniadau.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m