12/05/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

pens and paints on table in a primary school class

Cabinet Powys yn wynebu heriau mawr mewn ysgolion

MAE Cabinet newydd y cyngor wedi datgelu bod llwyth o waith cynnal a chadw gwerth £77m yn aros i’w wneud mewn ysgolion uwchradd a chynradd Powys.

Mae trafodaethau cychwynnol rhwng y Cabinet newydd ac uwch swyddogion wedi datgelu ffigurau syfrdanol am gyflwr ysgolion y sir, gydag ysgolion uwchradd angen £47m ac ysgolion cynradd angen £30m.

“Bydd y ffigur syfrdanol hwn yn golygu heriau mawr i’r Weinyddiaeth newydd wrth i ni weithredu’r Cytundeb Partneriaeth Flaengar a chyflymu’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Trawsnewid i ddarparu dyfodol mwy cynaliadwy i’n hysgolion a’n cymunedau,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Gibson-Watt.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu:

“Mae’n amlwg nad yw Cabinetau’r gorffennol wedi gwneud y penderfyniadau oedd eu hangen i fynd i’r afael â’r dirywiad yn ystâd ysgolion Powys, yn enwedig yn y sector uwchradd, ac mae rhai penderfyniadau anodd o’n blaenau wrth ddelio â’r broblem fawr hon.”

Wrth sôn am y ffigurau, ychwanegodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol:

“Mae’r rhain yn ffigurau syfrdanol a’r hyn sy’n peri’r pryder mwyaf yw mai dim ond y gwaith sy’n aros ar gyfer ysgolion yw hyn. Rydym yn disgwyl am y ffigurau ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill a’r hyn sy’n cael ei gadarnhau gan y ffigurau yw bod angen cynllun y Bartneriaeth Flaengar i adolygu rhaglen gyfalaf bresennol y Cyngor ar frys.”

%d bloggers like this: