MAE canolfan breswyl newydd ar gyfer Penarth a fyddai’n darparu cartrefi fforddiadwy i bobl hŷn wedi symud gam yn nes at ei gwireddu.
Cytunodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg i brydlesu tir Tai Wales and West ar gyfer y cyfleuster ac ymrwymo i gytundeb partneriaeth.
Mewn menter ar y cyd rhwng y ddau sefydliad, mae tir sy’n rhan o safle 3.6 erw ger Myrtle Close yn y dref wedi’i ddewis ar gyfer y datblygiad, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Byddai’r ganolfan yn cael ei chodi gerllaw Oak Court, cyfleuster preswyl presennol Tai Wales and West i bobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy’n deall dementia a reolir gan y Cyngor.
Gyda’i gilydd, byddent yn helpu i greu amgylchedd cymunedol a fyddai’n cynnwys tai a gofal cymdeithasol a hefyd yn creu cyfle i ddarparu iechyd ar y safle yn amodol ar drafodaethau parhaus â’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Byddai’r Cyngor yn gyfrifol am gyflawni elfen byw’n annibynnol y cynllun i bobl hŷn, gyda Tai Wales and West yn adeiladu bloc preswyl Gofal Ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu:
“Dylai’r prosiect hwn fod yn enghraifft wych o’r hyn y gall asiantaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth ei gyflawni.
“Yn ddatblygiad modern o’r radd flaenaf, byddai’r ganolfan hon yn darparu llety o ansawdd uchel i aelodau hŷn o’n cymuned.
“Byddai lleoli’r ganolfan wrth ymyl darpariaeth i bobl hŷn sy’n bodoli eisoes yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol bwysig trwy helpu i greu ymdeimlad o gymuned i’r rhai sy’n byw yno.”
Meddai Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Cymru Grŵp Tai Wales and West:
“Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r prosiect.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg ar y datblygiad pwysig hwn i bobl hŷn yn ardal Penarth.
“Fel rhan o’r datblygiad byddwn yn ceisio cael caniatâd cynllunio i adeiladu 70 o fflatiau modern o ansawdd uchel lle gall pobl hŷn fyw’n anniby
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m