03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cadarnhau achos o frech y mwncïod yng Nghymru

MAE Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi drwy datganiad ysgrifenedig fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod achos o frech y mwncïod wedi cael ei ganfod yng Nghymru. Mae’r unigolyn yn derbyn gofal a thriniaeth, ac mae’r gwaith o olrhain ei gysylltiadau yn mynd rhagddo.

Medd y datganiad gan y Gweinidog:

Mae brech y mwncïod yn haint sy’n cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ganfod fel arfer yng Ngorllewin a Chanol Affrica. Mae achosion ohono wedi bod yn eithriadol o brin yn y DU. Serch hynny, nid yw’r ffaith bod achos wedi ei ganfod yng Nghymru yn annisgwyl o ystyried y sefyllfa sy’n datblygu yn y DU ac mewn nifer o wledydd o gwmpas y byd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon i fonitro’r sefyllfa ac ymateb i achosion posibl o frech y mwncïod, ac achosion o’r haint sydd wedi cael eu cadarnhau.

Fel arfer nid yw’r haint yn lledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae brech y mwncïod yn cael ei drosglwyddo drwy gael cysylltiad agos iawn â rhywun sydd wedi cael ei heintio ac sydd â symptomau. Mae’r math o feirws sydd yn y DU yn llai difrifol na fersiwn arall y ddau fath o’r feirws sydd wedi cael eu cofnodi. I’r rhan fwyaf o bobl bydd hwn yn gyflwr hunan-gyfyngol, a byddant yn gwella o fewn ychydig wythnosau, er bod posibilrwydd y gallai rhai pobl ddioddef salwch difrifol. Mae’r risg cyffredinol i’r cyhoedd yn isel.

Mae symptomau cychwynnol brech y mwncïod yn cynnwys twymyn, cur pen, poen yn y cyhyrau a’r cefn, nodau lymff wedi chwyddo, teimlo’n oer, a blinder eithafol. Gallai brech ddatblygu, yn aml gan ddechrau ar yr wyneb, ac wedyn yn lledaenu i rannau eraill o’r corff gan gynnwys yr organau cenhedlu. Mae’r frech yn mynd drwy wahanol gyfnodau – gallai edrych fel brech yr ieir neu siffilis, cyn ffurfio crachen sy’n cwympo i ffwrdd maes o law.

Rwy’n annog unrhyw un sydd â brech neu friwiau anarferol ar unrhyw ran o’r corff, yn enwedig yr organau cenhedlu, i osgoi cael cysylltiadau agos ag eraill ac i alw GIG 111, neu’r gwasanaeth iechyd rhywiol lleol, er mwyn cael cyngor. Hefyd rydym yn cynghori pobl i ffonio ymlaen llaw cyn mynd i’r gwasanaeth. Rydym yn gofyn i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae’n bwysig yn arbennig bod y gymuned dynion hoyw a deurywiol yn effro i’r risg

Os bydd pobl yn cysylltu â gwasanaethau oherwydd bod ganddynt symptomau, mae’n bosibl y bydd gofyn iddynt gael prawf, ac rwy’n annog unigolion i roi gwybod i wasanaethau am y rheini y maent wedi cael cysylltiad agos â nhw er mwyn inni allu sicrhau bod pawb yn cael y cymorth priodol a’n bod yn gallu cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Bydd unrhyw drafodaethau’n cael eu trin mewn modd sensitif a chyfrinachol.

Gan ddibynnu ar y math o gysylltiad ag unigolyn sydd wedi ei heintio, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i bobl hunanynysu gartref am hyd at 21 o ddiwrnodau, ac y byddwn yn cynnig brechiad yn erbyn y frech wen iddynt er mwyn lleihau’r risg o ddal y feirws.

Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa hon fel y mae’n datblygu.

%d bloggers like this: