04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cadwch Abertawe’n lân y penwythnos hwn

MAE ymwelwyr sy’n bwriadu mynd mas i fwynhau Gŵyl y Banc yn cael eu hannog i beidio â thaflu sbwriel y penwythnos hwn.

Wrth i’r cyfnod o heulwen diweddar barhau a chyfyngiadau ar letygarwch a mynd allan yn cael eu llacio, disgwylir y bydd parciau a thraethau Abertawe’n brysur y gŵyl banc hwn.

Mae Cyngor Abertawe’n annog pobl i beidio â chynnull mewn grwpiau mawr ac os ydynt yn mynd i’r traeth i sicrhau eu bod yn mynd â’u gwastraff adref gyda nhw.

Dywedodd Chris Howell, Pennaeth Gwastraff Cyngor Abertawe y byddai timau ychwanegol ar ddyletswydd dros y penwythnos, yn targedu traethau, parciau a mannau poblogaidd eraill.

Meddai:

“Bydd y cyngor yn chwarae ei ran ac rwyf am annog pob un i wneud ei ran hefyd drwy fynd â’i wastraff adref gydag ef. Peidiwch â thaflu sbwriel, peidiwch â mynd â gwydr ar y traeth na gadael barbeciws tafladwy ar y traeth. A pheidiwch â meddwl ei fod yn ddifyr torri poteli a gadael y gweddillion ar ôl i eraill gamu arnynt.

“Mae pobl yn meddwl nad oes neb yn dioddef yn sgîl taflu sbwriel. Nid yw hyn yn wir. Mae poteli sydd wedi torri a darnau eraill fel barbeciws tafladwy’n gallu achosi niwed mawr, yn enwedig i blant ifanc a allai sathru arnynt. Gall anafiadau llosg greithio pobl am oes.

“Mae angen i bawb ein helpu i greu diwylliant lle mae’n gwbl annerbyniol gollwng neu adael sbwriel yn yr amgylchedd i eraill sathru arno neu ei glirio.”

Ychwanegodd Chris Howell:

“Dros ŵyl banc y Pasg, cliriodd timau’r cyngor 12 tunnell o sbwriel o’n traethau, ein parciau a mannau eraill. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gwneud y peth iawn y gŵyl banc hwn a’r rhai dilynol fel bod llai o sbwriel i ni ei gasglu ar eu hôl.

Fel cyngor rydym yn chwarae ein rhan. Rydym yn gwario miliynau o bunnoedd y flwyddyn yn glanhau ar ôl eraill. Rydym yn gofyn i bobl wneud eu rhan hefyd drwy beidio â thaflu sbwriel eu hunain.”

%d bloggers like this: