04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cadwch yn ddiogel pan yn ymweld â Chymru medd Mark Drakeford

WRTH i fannau agored Cymru baratoi i groesawu ymwelwyr, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn pwyso ar bobl fydd yn ymweld â chefn gwlad, traethau a mannau hardd Cymru i fod yn ddiogel.

Bellach ni fydd gofyn i bobl ‘aros yn lleol’, sy’n caniatáu i bobl deithio yng Nghymru ac i Gymru. Bydd atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored hefyd yn gallu agor a bydd hefyd yn gam tuag at ail-agor y sector twristiaeth o ddydd Llun Gorffennaf 13 ymlaen, os yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchenogion tir eraill i sicrhau bod mannau agored bendigedig Cymru’n barod i groesawu ymwelwyr.

Mae  hyn yn cynnwys cyhoeddi canllawiau ar dai bach cyhoeddus sy’n canolbwyntio hylendid, cadw pellter, arwyddion, a chiwio.  Ni fydd yn ddiogel agor pob toiled cyhoeddus fodd bynnag felly cynghorir pobl  i edrych ymlaen llaw pa gyfleusterau fydd yn agored.

Mae’r cod cefn gwlad wedi cael ei newid hefyd yn sgil y pandemig coronafeirws ac rydym yn awr yn gofyn y canlynol i ymwelwyr â chefn gwlad:

Parchwch bobl eraill:

Ystyriwch y gymuned leol ac eraill sy’n mwynhau’r awyr agored;

Parciwch yn ofalus a chadw giatiau a rhodfeydd yn glir;

Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent; a hefyd

Dilynwch lwybrau ond gadewch i eraill basio pan fydd hi’n gul.

Diogelwch yr amgylchedd naturiol:

Peidiwch â gadael olion eich ymweliad. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi;

Byddwch yn ofalus gyda barbeciwiau, a pheidiwch â dechrau tanau;

Cadwch gwn dan reolaeth effeithiol; a hefyd

Baw ci – rhowch e mewn bag a’i roi yn y bin neu ewch ag e gyda chi.

Mwynhewch yr awyr agored:

Cynlluniwch ymlaen llaw, drwy ganfod pa gyfleusterau sydd ar agor, a pharatoi; a

Dilynwch gyngor ac arwyddion lleol a chadwch bellter cymdeithasol:

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym yn byw mewn rhan mor hyfryd o’r byd a gwn fod llawer ohonom yn disgwyl ymlaen at ymweld â thraethau, cefn gwlad a mannau hardd ein gwlad.

“Mae pobl Cymru wedi gwneud cymaint dros y misoedd diwethaf i ddlyn y rheolau a lleihau lledaeniad Coronafeirws ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.  Rwy’n gofyn iddyn nhw barhau yn yr ysbryd hwnnw.”

“Gwaetha’r modd, dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld canlyniadau diffyg parch rhai pobl at rannau o Gymru, gyda thorfeydd yn gadael eu sbwriel.  Mae ymddygiad hunanol o’r fath yn anharddu’n mannau hardd ac yn peryglu pobl.

“Er bod llawer o lwybrau a meysydd parcio yn ailagor, ni fydd pob cyfleuster ym mhob lleoliad ar gael ar unwaith.  Ewch felly i wefannau lle bo’n bosibl  a chynlluniwch eich ymweliad.  Os bydd y lle rydych am ymweld ag ef yn rhy llawn pan gyrhaeddwch chi, byddwch yn barod â’ch ‘plan B’ ac ewch i faes parcio neu gyrchfan arall.

“Nid yw’r coronafeirws wedi mynd ac er bod y dystiolaeth yn dangos bod y perygl yn llai yn yr awyr agored, mae’r risg yno o hyd.  Mae eisiau felly inni barhau fod yn gyfrifol.

“Byddwch yn garedig wrth bobl leol a’ch cyd-ymwelwyr trwy barcio’n ystyriol, peidio â gadael unrhyw beth ar eich ôl a dilyn y Cod Cefn Gwlad newydd.”

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydyn ni’n deall bod pobl wedi gweld eisiau bod yn yr awyr agored a phwysigrwydd natur i iechyd y genedl.  Rydyn ni am annog pobl i fod yn ddiogel, cyfrifol a mwy cynaliadwy wrth fwynhau tirwedd naturiol Cymru.

“Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol eisoes yn gweithio’n galed i sicrhau bod croeso cynnes yn disgwyl yr ymwelwyr ac rydym yn gweithio’n galed gyda’r cymunedau a’r partneriaid hynny i sicrhau fod pawb yn cael mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel.

“Rydyn ni’n pwyso ar bawb sy’n dewis crwydro’n tirweddau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, efallai am y tro cyntaf, i wneud hynny â pharch – i’r bobl a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno ac i’w gilydd hefyd.”

%d bloggers like this: