04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Caerdydd am glywed barn y cyhoedd ar strategaeth gwastraff ddrafft Caerdydd

MAE ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar sut y bydd Caerdydd yn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru erbyn 2025 ac yn gwneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd gwyrddaf yn y DU yn agor heddiw.

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw’r ddinas ranbarthol fawr sy’n perfformio orau o ran ailgylchu yn y DU. Ers 2018 mae tua 58% o’r gwastraff a gynhyrchir yn y ddinas yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gaerdydd gynyddu’r gyfradd hon i 64% cyn gynted â phosibl ac i 70% erbyn 2025.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Gofynnir i drigolion roi eu barn ar saith menter allweddol a gynlluniwyd i wella cyfradd ailgylchu a chompostio’r ddinas, gan gynnwys:

Gwella ansawdd y deunydd ailgylchu sy’n cael ei gasglu. Gofynnir i breswylwyr roi eu barn ar ddwy system gasglu wahanol – ‘casgliad tair ffrwd’, gyda chynwysyddion ar wahân yn cael eu darparu ar gyfer papur a cherdyn (ffibrau), metel a phlastigau, a gwydr a jariau; a ‘didoli llawn ar garreg y drws’ – mae hyn fel arfer yn cynnwys pedwar cynhwysydd o leiaf ar gyfer gwahanol ddeunyddiau;

Cynyddu faint o ailgylchu sy’n cael ei wneud. Gofynnir i breswylwyr roi eu barn ar ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gardd, gwastraff busnes (masnach), a’r defnydd o Ganolfannau Ailgylchu;

Cynyddu’r cyfle i drigolion ailgylchu, drwy gasgliadau ailgylchu swmpus, datblygu cyfleusterau cymunedol newydd, a chreu digwyddiadau ailgylchu teithiol yn nes at gartrefi preswylwyr;

Defnyddio data i nodi a thargedu meysydd lle mae’r gyfradd ailgylchu yn isel a chyflawni camau targedig, megis gwaith allgymorth yn y cymunedau hyn i gynyddu’r gyfradd ailgylchu;

Lleihau plastigau untro drwy fenter Ail-lenwi Cymru lle gall y cyhoedd ail-lenwi poteli dŵr mewn caffis yn rhad ac am ddim;

Annog a chefnogi ailddefnyddio ac atgyweirio deunyddiau yn unol â Hierarchaeth Gwastraff yr UE – Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu. Datblygu mentrau felCaffi Trwsio Cymru, Benthyg Cymrua’r Caban yn Ffordd Lamby, sef siop ailddefnyddio; a hefyd

Datblygu economi gylchol, defnyddio cerbydau trydan, addysg lleihau gwastraff mewn ysgolion, a chynlluniau dychwelyd blaendal.

Ers mis Ionawr eleni, mae 4,000 o eiddo wedi bod yn cymryd rhan mewn treial gan ddefnyddio’r system gasglu ‘tair ffrwd’. Rhoddwyd sachau glas amldro i breswylwyr ar gyfer papur a cherdyn (ffibrau), sach amldro goch ar gyfer metelau a phlastig, a chadi glas ar gyfer poteli a jariau. Dengys arwyddion cynnar fod ansawdd y deunydd sy’n cael ei gasglu’n gwella’n fawr gyda’r gyfradd halogi yn gostwng o 30% i lai na 5%.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu:

“Wrth gymharu’r gyfradd ailgylchu a chompostio yng Nghaerdydd â’r un yn ninasoedd rhanbarthol mawr eraill y DU, mae ein ffigurau’n rhagorol ac yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, yn enwedig ein trigolion, sy’n chwarae rhan bwysig o ran ein helpu i gyflawni’r niferoedd hyn.

“Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yw ein cyfradd ailgylchu wedi gwella ac mae’n rhaid i ni edrych yn awr ar ffyrdd o’i gwella eto. Ers 2020, mae’r gyfradd ailgylchu gyffredinol ar gyfer y ddinas wedi gostwng oherwydd y pandemig.

“Ers i’r cyfyngiadau leddfu, rydym wedi cymryd camau i gynyddu’r gyfradd ailgylchu, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd y targed o 70% ar gyfer 2024/25.  Bydd hon yn her enfawr, yn enwedig gyda’r amrywiaeth eang o gartrefi a busnesau yn y ddinas, ond gyda chymorth ein trigolion rwy’n siŵr y gallwn fwrw ymlaen. Gwyddom i gyd ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd a dyma un o’r ffyrdd gorau a hawsaf o wneud gwahaniaeth.

“Mae gwastraff yn effeithio ar bawb.  Rydym am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae’r goblygiadau amgylcheddol ac ariannol o fethu yn enfawr. Yn yr arolwg, gall preswylwyr ddewis pa rai o’r meysydd blaenoriaeth y maent am roi eu barn arnynt, a bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chasglu a’i dadansoddi a’i defnyddio i helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y ffordd ymlaen.”

Pam fod cyfradd ailgylchu’r cyngor wedi gostwng yn ystod y pandemig? – Mae hyn yn bennaf oherwydd yr angen ar ddechrau’r argyfwng i anfon yr holl wastraff i gyfleuster adfer ynni yn hytrach na’i drefnu i’w ailgylchu, a hynny er mwyn cadw ein gwasanaeth gwastraff ar waith.  Felly ychydig iawn o wastraff, os o gwbl, a gafodd ei ailgylchu yn ystod misoedd cynnar y cyfnod clo. Roedd yn rhaid i’r cyngor wneud hyn er mwyn diogelu staff oedd yn gweithio’n agos at ei gilydd yn ein gwaith prosesu ailgylchu (Cyfleuster Adfer Deunyddiau). Ochr yn ochr â hyn, gorfodwyd canolfannau ailgylchu’r Cyngor yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer i gau dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Dangosodd y penderfyniadau gweithredol hyn, a adroddwyd yn eang ar y pryd, natur frys y sefyllfa.

 

%d bloggers like this: