04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Caerdydd i ehangu’r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig

BYDD disgyblion o bob rhan o Gaerdydd yn elwa o ehangu’r ddarpariaeth addysg anghenion dysgu ychwanegol ac arbennig, a bydd y cynigion a argymhellir yn creu mwy na 270 o leoedd ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y sector anghenion arbennig dros y gaeaf ac mae Cyngor Caerdydd bellach wedi cwblhau’r cyfnod rhybudd statudol ar gyfer wyth cynnig. Ar ôl derbyn dau wrthwynebiad yn unig, mae pob un o’r cynigion bellach wedi’u hargymell i’w cymeradwyo a bydd Cabinet y Cyngor yn trafod y mater yn ei gyfarfod ddydd Iau nesaf (14 Gorffennaf).

Wrth wraidd y cynllun mae creu mwy na 200 o leoedd ychwanegol mewn wyth ysgol ar draws y ddinas, drwy sefydlu:

canolfan ag 20 lle ar gyfer plant oedran cynradd ag anghenion dysgu cymhleth (ADC) ynYsgol Gynradd Moorland(o fis Medi 2023);

canolfan â 30 lle ar gyfer dysgwyr ag ADC ynYsgol Uwchradd Willows(o fis Medi 2023), a

chanolfan â 30 lle ynYsgol Gyfun Gymraeg Glantafar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth, ochr yn ochr â’r ganolfan bresennol (o fis Medi 2023), a chynyddu

nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth o 20 i 45 yn Ysgol Uwchradd Llanisien (o fis Medi 2022);

nifer y disgyblion ynYsgol Arbennig Tŷ Gwyno 198 i 240 (o fis Medi 2022);

nifer y disgyblion ynYsgol Arbennig The Hollieso 90 i 119 (o fis Medi 2022) ac o 119 i 150 (Medi 2023);

nifer y disgyblion ag ADC ynYsgol Gynradd Llanisien Facho 20 i 30 (o fis Medi 2023), a

nifer y lleoedd ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth ynYsgol Gynradd Pentre-baeno 20 i 24 (o fis Medi 2022).

Yn ogystal, bydd y Cyngor yn cynyddu nifer y lleoedd ledled y ddinas ar gyfer disgyblion ag anghenion iechyd a lles emosiynol.

Os caiff ei ddatblygu bydd y cynlluniau’n gwella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn cynnwys cau safleYsgol Arbennig Y Courtyn Llanisien, sydd wedi dyddio. Byddai’r ysgol yn trosglwyddo i adeiladau newydd ar draws dau safle -Ysgol Gynradd y TyllgoedacYsgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwgyn Llanrhymni. Byddai gan bob un le i 36 o ddisgyblion – cyfanswm o 72, cynnydd o 30 ar y capasiti presennol.

Byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025.

Hefyd ar y gweill mae creu dwy ganolfan adnoddau arbenigol newydd ag 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn:

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, yn Nhrelái (o fis Medi 2022), ac

Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Nhredelerch (o fis Medi 2023).

Ni ddaeth unrhyw wrthwynebiadau i’r tri chynllun hyn i law’r Cyngor. Ynghyd â’r wyth cynnig addysg anghenion arbennig, bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cael ei drafod gan y Cabinet yn y cyfarfod heno.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor:

“Mae’n bosibl mai dyma’r camau mwyaf arwyddocaol tuag at drawsnewid y ddarpariaeth addysg anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol a welwyd yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd yn gwella safon y cyfleusterau ar draws y ddinas yn sylweddol ac yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael gan fwy na 270.

“Ym mis Mawrth 2021, roedd gan Gaerdydd 2,265 o blant ag anghenion addysgol arbennig,” ychwanegodd, “ac roedd 1,116 ohonynt wedi’u lleoli mewn cyfleusterau arbenigol yn y ddinas, gyda 48 o leoedd ar gael mewn canolfannau lles ac iaith lafar a 90 arall mewn unedau cyfeirio disgyblion.

“Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu’n helaeth at fynd i’r afael â diffyg yn ein darpariaeth a bydd hefyd yn helpu i ledaenu’r cyfleusterau ledled Caerdydd.

“Yn ogystal, ar safle newydd Ysgol Y Court, bydd adeiladau’r 21ainganrif yn cefnogi nifer o fentrau ar gyfer disgyblion â lefelau uchel o anghenion iechyd a lles emosiynol – fel ffocws therapi a chyfleoedd ymyrraeth gynnar.”

Mae’r angen i gynyddu’r ddarpariaeth yn y meysydd hyn yn adlewyrchu cynnydd yn nifer y disgyblion ag anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol – tuedd a nodwyd cyn 2020 ond sydd wedi’i gwaethygu gan gau ysgolion a mesurau eraill a gyflwynwyd yn sgil y pandemig.

%d bloggers like this: