03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k

MAE Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd wedi cael £750,000 gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyfres o fentrau sydd â’r nod pennaf o gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas ac mewn rhai ardaloedd preswyl yn Cathays.

Daeth y bartneriaeth, sy’n cynnwys sefydliadau fel Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill, at ei gilydd i ddatblygu cais sy’n adeiladu ar fentrau presennol ac yn cyflwyno dulliau newydd o fynd i’r afael â diogelwch menywod, troseddau mewn cymdogaethau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ymhlith y mentrau fydd yn cael eu hariannu drwy’r cais llwyddiannus mae:

  •  Ehangu prosiect Bws Diogelwch Heddlu De Cymru sy’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed yn economi’r nos
  • Pwyntiau Help Stryd – intercoms mewn tri lleoliad allweddol gan gynnig i drigolion sy’n teimlo dan fygythiad neu’n anniogel fynediad uniongyrchol i’r heddlu a gweithwyr brys
  • Camerâu teledu cylch cyfyng newydd ar strydoedd y ddinas, gan gynnwys Parc Bute
  • Goleuadau wedi’u diweddaru mewn tanffyrdd wedi’u targedu
  • Cefnogi’r gwaith o gyflwyno Siarter Diogelwch Menywod Caerdydd a chynyddu nifer y ‘Lleoedd Diogel’ yn y ddinas lle gall pobl ofyn am gymorth a lloches os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu wedi’u dychryn

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai a Chymunedau ei bod wrth ei bodd bod cais Caerdydd ar gyfer y rownd ddiweddaraf o arian Strydoedd Diogelach wedi bod yn llwyddiannus. “Y grŵp datblygu ceisiadau sy’n gyfrifol am y llwyddiant hwn. Mae’r grŵp yn cynnwys pobl allweddol o asiantaethau cyngor, yr heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Caerdydd AM BYTH [sy’n cynrychioli 750 o fusnesau’r ddinas] a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd, sy’n cynnwys elusennau a grwpiau gwirfoddol.

“Gyda’i gilydd, dewison nhw ganolbwyntio ar ddiogelwch menywod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn economi’r nos a llwybrau adref. Yna, cafodd cysylltiadau eu gwneud gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd, ein prifysgolion a grwpiau eraill sydd â chysylltiadau cryf â’r gymuned.

“Drwy’r holl fentrau hyn, rhai newydd a rhai sydd eisoes ar waith, ein nod yw gwneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU i bobl gymdeithasu, gweithio a theithio heb deimlo dan fygythiad na chael eu haflonyddu.”

Mewn ymateb i’r newyddion dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Rwy’n hynod falch ein bod wedi bod yn llwyddiannus gyda’n cais diweddaraf i Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref; mae dyraniad £749,652 yn gymeradwyaeth i’n dull o weithio mewn partneriaeth yma yn ne Cymru.  Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r cyngor a phartneriaid eraill i nodi’n fanwl yrwyr problemau lleol a’r ffordd orau y gallwn eu taclo gyda’n gilydd.

“Bydd yr arian yma’n cael ei fuddsoddi i wneud strydoedd Caerdydd yn ddiogelach i fenywod a merched, yn ogystal â lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ein cymunedau. Mae atal trais yn erbyn menywod a merched wastad wedi bod yn flaenoriaeth benodol i mi fel Comisiynydd ac er ein bod wedi gwneud llawer i fynd i’r afael â’r mater yn ne Cymru, mae’n parhau i fod yn un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu ac mae rhaid i ni ymdrechu bob amser i wneud mwy os ydym am leihau’n sylweddol y bygythiadau a’r aflonyddu a brofwyd gan fenywod a merched ar draws ein cymunedau.

“Gan weithio mewn partneriaeth rydym yn canolbwyntio ar fuddion uniongyrchol o fesurau ymarferol fel teledu cylch cyfyng a gwelliannau ffisegol i’r amgylchedd a sicrhau gwelliannau hirdymor cynaliadwy i greu cymunedau diogel, hyderus a gwydn. Mae’n ffaith syml, pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ein bod yn cyflawni mwy nag yr ydym yn ei gyflawni ar ein pennau ein hunain.”

%d bloggers like this: