03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cais Wrecsam am fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025

MAE Cyngor Wrecsam wedi amlinellu ar ei gwefan y camau sy’n cymeryd lle er mwy ceisio fod yn llwyddianus i fod yn Ddinas Diwylliany y Deurnas Unedig 2025.

Dyma beth sydd yno:

“Fel rhan o’r cais rydym yn ceisio siarad a chysylltu gyda cymaint o’r gymuned ac sy phosib i gael eu syniadau a barn ar sut ddylid y flwyddyn edrych wrth i Wrecsam ddod yn gartref i’r gystadleuaeth. Rydym yn annog pobl greadigol i gyfrannu i’r broses o wneud penderfyniadau.

Er bod Cyngor Wrecsam yn arwain ar y cais, mae’n busnesau ân cymunedau amrywiol yn siapio sut fydd ei’n blwyddyn yn edrych yn 2025.

Mae’r gystadleuaeth yn defnyddio diwylliant i godi fyny ardaloedd o’r DU, sy’n dod a chynnydd mewn cynhyrchaeth a chyfleoedd i fannau a ddewiswyd o’r wlad.

Mi fyddwn yn edrych ar sut y gall diwylliant gwneud ein hardaloedd gyhoeddus ac ardaloedd siopa  yn fwy bywiog, a gweithio ar sut y gallwn ailwampio ein hisadeiledd artistiaid a dinesig i gymryd yr holl fanteision a bu’r agenda ‘codi ‘fyny’ yn cynnig”

Mae’f wefan yn pwysleisio :

Bydd Wrecsam yn cael ei ystyried fel rhanbarth i fuddsoddi ynddo yn allanol ac o fewn Wrecsam cyn, yn ystod ac ar ôl bod yn Ddinas Diwylliant;

Bydd yna hwb mewn twristiaeth yn Wrecsam a’r dalgylch yn ei sgil;

Bydd adferiad Covid ein rhanbarth yn cael hwb gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yn y sir ac yng nghanol y dref;

Bydd cynnal Dinas Diwylliant y DU 2025 yn codi ein proffil rhyngwladol ymhellach;

Hull oedd y Ddinas Diwylliant yn 2017, a bu buddsoddiad o tua £219miliwn yno, yn ogystal â chreu 800 o swyddi uniongyrchol yn ei sgil.

Pwysleisir hefvyd fydde Wrecsam yn ganolbwynt ar gyfer diwylliant yn y DU; byddent yn gwella safon ei huchelgeisiau gan greu newidiadau cadarnhaol yng nghanfyddiad pobl o Wrecsam, yn y wlad hon ac ar draws y byd; mae’n gyfle i ni ddangos i’r byd pwy ydym ni a sut bobl ydym ni – bydd cynnal Dinas Diwylliant yn arwain at fwy o ymgysylltu â’r gymuned a chynhwysiant cymdeithasol.

Petai Wrecsam yn ennill, byddai’r wobr yn dod i Gymru am y tro cyntaf.

Dywedodd Joanna Swash, Prif Weithredwr Moneypenny a Chadeirydd Grŵp Llywio cais #wrecsam2025.com:

“Wrth gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025 rydyn yn rhoi ein cymuned yn gyntaf ac amlygu ein brwdfrydedd am beth y mae gan Wrecsam i’w gynnig. “Mae gennym wreiddiau dwfn yn y dre, ac rydym yn angerddol wrth gefnogi ein pobl a’r gymuned fwy eang yr ydym yn rhan ohono.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Lle a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Rydym ni yn y gystadleuaeth hon gan ein bod eisiau ennill a sicrhau bod Wrecsam yn cynnal Dinas Diwylliant y DU yn 2025. O’r 20 cais cychwynnol mae gennym ni gystadleuaeth gref gyda’r 7 rhanbarth arall sydd wedi cyrraedd y rhestr hir gyda ni.

“Rydym ni wedi rhoi tîm Dinas Diwylliant at ei gilydd sydd yn gweithio’n ddiflino i roi’r cyfle gorau o lwyddiant i ni.

“Mae ymgysylltu a chysylltu â’r gymuned yn y broses yn allweddol i lwyddiant y cais yma. Rydym wedi gwahodd cymunedau ac unigolion i wneud cais am gyllid o hyd at £1,000 i gynnal digwyddiad sy’n dangos cymunedau a diwylliant Wrecsam.

“Rydym ni hefyd wedi dechrau casglu syniadau o’r gymuned a’n nod yw cael barn y gymuned a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio’r cais.”

*Dolen i’r ymgynghoriad ydy:http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/1454

 

%d bloggers like this: