MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer canol tref Caerfyrddin i gefnogi proses gynllunio fwy syml, gan ei gwneud yn haws i ddatblygwyr gymryd dros siopau neu adeiladau gwag.
Bwriad y gorchymyn yw helpu i ddenu buddsoddiad i’r ardal, ac i gefnogi busnesau presennol trwy roi sicrwydd i ddatblygwyr, lleihau’r amser sydd ei angen a lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud cais cynllunio.
Hefyd, bydd yn helpu i lunio ac arwain datblygiad trwy’r heriau a wynebir o ganlyniad i Covid-19.
Mae ailddefnyddio siopau gwag unwaith yn rhagor yng Nghaerfyrddin yn un o’r blaenoriaethau allweddol i’r Cyngor yn ogystal â mynd i’r afael â’r effaith a’r goblygiadau sy’n deillio o Covid-19.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:
“Gall Gorchymyn Datblygu Lleol gyfrannu at adfywio a datblygiad economaidd lleol, gan helpu i wneud lleoedd yn fwy deniadol a mwy cystadleuol. Maent yn symleiddio’r broses gynllunio trwy ddileu’r angen am geisiadau cynllunio, gan ganiatáu i ddatblygwyr fwrw ymlaen yn gyflymach a chyda sicrwydd wrth leihau costau. Yng nghanol trefi, gall Gorchmynion Datblygu Lleol helpu i fynd i’r afael â’r broblem yn ymwneud ag eiddo gwag i gael canol trefi mwy hyfyw a bywiog. Maent yn caniatáu newidiadau penodol o ran defnydd sy’n golygu nad yw’r ymgeisydd yn gorfod cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio traddodiadol. Fodd bynnag, maent hefyd yn gallu atal dosbarthiadau defnydd penodol rhag digwydd.
Mae’n hanfodol fod canol tref Caerfyrddin yn gallu ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau sy’n deillio o Covid-19 a bydd mabwysiadu’r Gorchymyn Datblygu Lleol yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr fwrw ymlaen â’u cynlluniau yn ogystal ag annog buddsoddiad parhaus a newydd yng nghanol y dref.”
Mae Gorchymyn Datblygu Lleol eisoes ar waith yn llwyddiannus yng nghanol tref Rhydaman.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m