04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canaitâd i ddatblygu ysgolion yn Beddau a Rhydfelen

MAE Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y Beddau a Rhydfelen i ddarparu cyfleusterau newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £60 miliwn ar draws Ardal Ehangach Pontypridd.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau, 24 Mawrth, cytunodd aelodau i gymeradwyo’r ddau brosiect i ddarparu cyfleusterau chweched dosbarth a champfa newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn y Beddau, ac Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn Rhydfelen. Ystyriwyd y ddau adroddiad ddydd Iau ac mae’r pwyllgor wedi argymell bod swyddogion yn rhoi caniatâd cynllunio.

Bydd y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni’r prosiectau yma trwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (gynt Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain). Mae modd i drigolion ddod o hyd i ragor o wybodaeth a mynegi eu barn am y prosiectau yn rhan o ymgynghoriadau y Cyngor yn ystod yr hydref 2022.

Bydd pob datblygiad yn brosiect Carbon Sero-Net ac yn cydymffurfio ag ymrwymiadau y Cyngor mewn perthynas â Newid Hinsawdd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Beddau

Mae caniatâd cynllunio’r Cyngor yn cynnwys adeiladu campfa newydd, bloc newydd i’r chweched dosbarth, cae chwarae newydd, dymchwel pedwar adeilad presennol, maes parcio newydd a gwaith cysylltiedig ar draws y safle, gan gynnwys tirlunio. Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod 2023.

Bydd bloc y chweched dosbarth yn adeilad tri llawr ac yn agos at ffin ddwyreiniol y safle, wrth ochr y cae chwarae presennol. Bydd y bloc yn cynnwys ystafelloedd addysgu pwrpasol, gofodau cymdeithasol a darpariaeth ar gyfer arlwyo a storfeydd. Bydd y safle gyfagos ar Heol Penycoedcae (yn arwain at y trac athletau) yn cael ei ddiweddaru a bydd 23 o leoeydd parcio ac ardal cadw beiciau yn cael eu creu yno.

Bydd campfa dau lawr yn cael ei hadeiladu yng nghanol y safle presennol, ble mae’r cyrtiau tenis ar hyn o bryd. Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys neuadd, ystafelloedd newid a storfeydd. Bydd yr ail lawr yn cynnwys campfa a stiwdio.

Bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys tirlunio’r ardal tu ôl i’r adeilad rhestredig, lle bydd adeilad modern sydd eisoes yno yn cael ei ddymchwel i ddarparu ardal i ddisgyblion, sy’n cynnwys glaswelltir planhigion a choed. Bydd adeilad yn cael ei ddymchwel er mwyn ehangu’r maes parcio sydd yn y de, a bydd mynedfa arall i’r maes parcio o Heol Castellau fel bod system un ffordd o amgylch y maes parcio. Bydd y maes parcio yn nwyrain y safle hefyd yn cael ei ad-drefnu.

Wrth argymell y cais i gael ei gymeradwyo, nododd adroddiad y swyddog y byddai’r datblygiad yn darparu cyfleuster cyfoes ac addas i’r chweched dosbarth a chyfleusterau campfa/chwaraeon fydd yn fuddiol i holl ddisgyblion yr ysgol. Nododd yr adroddiad y byddai cynnal gwaith tirlunio a thynnu hen strwythurau yn fuddiol i amgylchedd y safle, a byddai adoygu’r trefniadau parcio a bysiau yn gwella llif traffig yn lleol ac ar y safle.

Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen

Mae caniatâd cynllunio y Cyngor yn cynnwys ailddatblygiad llwyr o safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn er mwyn adeiladu ysgol newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon, maes parcio,  a bydd gofyn am waith tirlunio a gwaith cysylltiedig. Bydd yr ysgol yn agor yn 2024 ac yn croesawu disgyblion cyfrwng Cymraeg Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn ogystal â disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.

Bydd yr adeilad newydd ar ochr orllewinol y safle a bydd yr ysgol bresennol yn cael ei dymchwel. Bydd 16 ystafell ddosbarth a dau lawr (chwech ystafell ar bob llawr). Bydd y datblygiad yn cynnwys ystafelloedd aml-ddefnydd, gofodau cymdeithasol, swyddfeydd, toiledau, ystafelloedd newid, coridor, cegin a storfeydd. Bydd celloedd ffotofoltäig ar do yr ysgol er mwyn menteisio ar ynni solar.

Bydd ardaloedd eraill safle yr ysgol newydd yn cael eu hailddatblygu i ddarparu mynediad cylchol a pharcio. Bydd 41 o fannau parcio a lle i chwe bws ar y safle. Bydd mynediad i’r safle o’r ffin gogledd-ddwyreiniol (yn uniongyrchol o Stryd y Celyn) a bydd ramp yn arwain at fynedfa’r ysgol. Bydd gweddill y safle yn cynnwys cae pêl-droed bach ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd, a bydd gwaith tirlunio yn darparu systemau draenio cynaliadwy a gwelliannau cynefin.

Wrth argymell y cais yma i’w gymeradwyo, nododd adroddiad y swyddog bod y datblygiad yn cydymffurio’n llawn â pholisi cynllunio.

Meddai’r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Mae penderfyniad y pwyllgor i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiadau yma yn y Beddau a Rhydfelen yn nodi carreg filltir bwysig o ran darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n disgyblion ni. Mae’r datblygiadau yma’n rhan o fuddsoddiad gwerth £60 miliwn ar draws Ardal Ehangach Pontypridd, sydd hefyd yn cynnwys buddsoddiadau helaeth ar gyfer ysgolion yn y Ddraenen-wen a Chilfynydd.

“Bydd y prosiect yn Ysgol Heol y Celyn yn darparu amgylchedd dysgu symbyliol mewn adeilad newydd sbon. Bydd y datblygiad yn  gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac yn cydymffurfio â’r deilliannau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor. Bydd datblygiad Ysgol Bryncelynnog yn hwb rhagorol i’r chweched dosbarth a bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd o fudd i’r ysgol gyfan. Roeddwn i’n falch iawn o gael ymweld â’r ysgol yr wythnos yma a chael cipolwg ar y cynlluniau cyffrous gyda’r pennaeth.

“Mae swyddogion wedi canolbwyntio ar faterion allweddol mewn perthynas â ddiogelwch ar y ffordd a threfniadau codi a chasglu disgyblion o’r ysgol yn y ddau gynllun. Mae’r materion yma wedi’u hamlinellu yn y cynlluniau trafnidiaeth sydd hefyd wedi’u hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau.

“Mae prosiectau Ardal Ehangach Pontypridd yn rhan o fuddsoddiad ehangach parhaus gan Lywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Es i i safle’r gwaith yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr hefyd yr wythnos yma er mwyn gweld y cynnydd yn y gwaith tuag at ddarparu cyfleusterau newydd yn 2022. Bydd y prosiect yma, ynghyd â phrosiect ar wahân yn Ysgol Rhydywaun ym Mhen-y-waun yn ateb y galw am ragor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn lleol.

“Derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio yn gynharach y mis yma ar gyfer prosiectau y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Mae prosiectau eraill ar waith yn defnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85 miliwn a gyhoeddwyd yn Hydref 2021, gan gynnwys cynigion gwerth £9 miliwn ar gyfer cymuned Glyn-coch. Mae’r prosiectau yma’n golygu bod buddsoddiadau gwerth £252 miliwn yn digwydd mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau cyffrous yma yn y Beddau a Rhydfelen yn datblygu dros yr wythnosau a misoedd nesaf, ac at weld y gwaith yn dechrau ar y safleoedd.”

%d bloggers like this: