MAE ysgol gynradd newydd 360 o bant yng Nglynebwy wedi cael caniatâd cynllunio. Bydd y Cyngor yn awr yn mynd ati i sicrhau contractwr ar gyfer y datblygiad drwy broses tendr.
Mae’r prosiect yn ganlyniad gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a gynlluniwyd i fuddsoddi yn y stad ysgolion ar draws Cymru. Mae hyn yn rhan o Fand B rhaglen Blaenau Gwent, sy’n rhedeg tan 2025, a bydd yn gweld buddsoddiad yn y rhanbarth o tua £26m yn y stad ysgolion yn lleol, yn cynnwys ysgol gynradd Gymraeg newydd.
Amcanion Rhaglen Band B Ysgolion 21ain Ganrif yw mynd i’r afael â’r blaenoriaethau gan gynnwys:
Codi safonau, yn neilltuol ar Gyfnod Allweddol 4; gwella addasrwydd a chyflwr y stad ysgolion; cynyddu cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; diwallu anghenion dysgwyr bregus a bod yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg:
“Mae darparu’r safonau addysgol a’r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau, yn ogystal â gofalu am lesiant ein plant a phobl ifanc, yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau i ni. Rhan o hyn yw gwneud yn siŵr y gall dysgwyr gael mynediad i’r cyfleusterau modern gorau oll.
“Mae gennym hanes o lwyddiant mewn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ar brosiectau sy’n galluogi ein disgyblion i gael mynediad i amgylcheddau dysgu modern a diddorol er mwyn iddynt ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.
“Rwy’n falch fod y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi caniatâd fel y gall y datblygiad cyffrous hwn symud ymlaen a rhoi ysgol fodern newydd sbon i’r plant a staff ysgol yn yr ardal honno i edrych ymlaen ati.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m