03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Caniated cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ym Mhenfro

MAE Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cais i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mhenfro.

Bydd yr ysgol, o’r enw Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn darparu addysg Gymraeg i 210 o ddisgyblion 5-11 oed, darpariaeth feithrin i 30 o bant a Chylch Meithrin ar gyfer plant o dan 3 oed.

Bwriedir i’r ysgol agor ym mis Medi 2023 a bydd wedi’i lleoli ar safle hen Ysgol Penfro yn Bush Hill, ger Ysgol Harri Tudur.

Yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol derfynol gan Lywodraeth Cymru, byddai’r gwith adeiladu’n dechrau ar y safle hwn ym mis Mai 2022.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, ei fod yn falch iawn bod y prosiect wedi derbyn caniatâd cynllunio.

“Rydym yn gyffrous iawn bod y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen a’i fod wedi derbyn caniatâd cynllunio” meddai. “Mae’n newyddion gwych i Benfro a’r cyffiniau, a bydd yn gwneud llawer i ehangu addysg Gymraeg yn lleol.”

A dywedodd fod y Cyngor yn falch o’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn yng nghanol a de Sir Benfro.

“Ar ôl cydnabod yr awydd am addysg Gymraeg, agorwyd Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych-y-pysgod yn 2016 ac Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn 2018 fel ysgol i blant 3-16 oed, gan gynnig darpariaeth uwchradd ychwanegol yn Sir Benfro,” meddai.

“Yn 2023, byddwn yn agor Ysgol Gymraeg Bro Penfro, gan ddisodli’r ddarpariaeth ffrwd ddeuol yn Ysgol Gelli Aur.

“Hefyd, mae Ysgol Croesgoch bellach yn darparu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac mae Ysgol Wdig ac Ysgol Ger y Llan yn Nhreletert wedi dod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

Atseiniodd y Cynghorydd Cris Tomos, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a’r Gymraeg, sylwadau’r Cynghorydd Woodham am y cyflawniadau a wnaed hyd yma o ran addysg cyfrwng Gymraeg.

“Mae gan blant sy’n cael eu haddysgu yn y Gymraeg yn yr ysgol gynradd sgil bywyd gwych – y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith – yn ogystal â mwynhau byd cyfan o ddiwylliant Cymraeg a chyfleoedd gyrfaol gwych pan fyddant yn hŷn.

“Mae’n rhodd wych ac rwy’n falch iawn o’r cynnydd sy’n cael ei wneud.”

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Carey, Cadeirydd y Corff Llywodraethol Dros Dro ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Penfro:

“Rwy’n falch iawn fod y garreg filltir bwysig hon wedi’i chyrraedd o ran datblygu’r ysgol. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud yn barod gan swyddogion o Gyngor Sir Penfro a gwirfoddolwyr y corff llywodraethol dros dro, a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw.”

%d bloggers like this: