04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canllaw siop fflach wedi ei lansio ar gyfer canol trefi Penybont

MAE Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynhyrchu canllaw ar gyfer siopau fflach ar gyfer darpar denantiaid a landlordiaid.

Wrth i strydoedd mawr addasu i gynnig profiad mwy amrywiol ar gyfer ymwelwyr, cydnabyddir bod angen dull mwy hyblyg wrth osod ardaloedd gwag yng nghanol trefi, yn benodol ar gyfer busnesau bach annibynnol.

Er mwyn helpu darpar denantiaid i lywio’r broses o sefydlu siop fflach, mae canllaw cam wrth gam newydd wedi ei gynhyrchu i ateb cwestiynau allweddol am gyfraddau busnes a chynllunio. Mae’r canllaw’n cyd-fynd â’r Mynegai Canol Tref fel offer i helpu busnesau i leoli’r ardal gywir ar eu cyfer nhw.

Mae’r canllaw ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor;

Er gwaethaf holl helynt pandemig Covid-19, mae’r stryd fawr yn parhau i fod yn fan lle gall pobl gael mynediad at ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys banciau, cymdeithasau adeiladu, optegwyr a fferyllfeydd.

Mae rhai syniadau cyffrous ac arloesol sy’n newid y ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio o fewn lleoliad canol tref yn dod i’r amlwg o’r cyfnod hwn o ansicrwydd. Mae prydlesi ar safleoedd yn mynd yn fyrrach wrth i landlordiaid gael eu hannog i fabwysiadu dull gosod mwy hyblyg.

Mae’r syniad o siopau fflach, a oedd ar un adeg yn benodol i faestrefi dinasoedd a threfi bach unigryw, nawr wedi dod yn fwy poblogaidd, a chânt eu cydnabod fel ffordd o harneisio ysbryd entrepreneuraidd a helpu pobl i sefydlu busnes llwyddiannus. Mae’r canllaw newydd hwn yn egluro’r broses i unrhyw fusnes sy’n ystyried lansio siop fflach, ac yn manylu ar y gefnogaeth sydd ar gael.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddechrau siop fflach yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl neu Faesteg, cysylltwch â Rheolwr Canol Tref y cyngor, Andrew Highway, ar 01656 815225 neu e-bostiwch .

%d bloggers like this: