04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canmoliaeth gan Estyn i ddwy ysgol yng Nghaerdydd

MAE arolygwyr ysgolion Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, wedi canmol dwy ysgol gynradd yng Ngaerdydd self Ysgol Pen-y-Groes ac Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn

Ymwelwyd ag Ysgol Pen-y-Groes  lle y mae bron i chwarter o’i 112 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ym mis Mai gan Estyn. Canfuwyd bod gan yr ysgol arweiniad ‘clir a doeth’ gyda staff wedi ymrwymo i ethos o sicrhau gofal a lles o safon uchel i ddisgyblion mewn amgylchedd cartrefol a chefnogol.

Er bod ychydig dan 0.3 y cant o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, mae eu ffordd o ddefnyddio’r iaith yn nodwedd gref yr ysgol ac maen nhw’n defnyddio’r iaith yn ‘hollol naturiol’ y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Mae sgiliau llafar y disgyblion ieuengaf yn datblygu’n llwyddiannus yn fuan ar ôl iddynt ddechrau yn yr ysgol,” meddai’r adroddiad. “Erbyn Blwyddyn Un a Dau, mae nifer yn siarad yn hyderus ac yn frwdfrydig am eu gwaith a’u profiadau… yn ymfalchïo yn yr iaith a’i defnyddio yn naturiol wrth siarad â’i gilydd.”

Canmolwyd y disgyblion am fod yn ‘hynod gwrtais’ â’i gilydd ac yn trin staff ac ymwelwyr gyda pharch yn gyson, gan ychwanegu:

“Maen nhw’n ymddwyn yn eithriadol o dda ac yn siarad gyda chyfoedion ac oedolion mewn modd cyfeillgar wrth sôn am eu gwaith a’u hysgol.”

Mae bron pob un o’r disgyblion, meddai, yn ymfalchïo yn eu hysgol a’u cymuned ac yn mwynhau dysgu am yr ardal leol. Maen nhw’n dangos lefelau uchel o les ac yn teimlo’n ddiogel o fewn cymuned ddysgu gefnogol tra bod y rhan fwyaf yn dangos agwedd ‘arbennig o gadarnhaol’ tuag at ddysgu.

Amlygodd yr adroddiad nad yw disgyblion bob amser yn cael ‘cyfleoedd pwrpasol’ i wella ansawdd y gwaith yn dilyn adborth gan athrawon, a dywedodd mai ‘ychydig iawn o ddefnydd’ oedd o ymyriadau a chefnogaeth bwrpasol i gwrdd ag anghenion dysgu penodol ambell i ddisgybl. Er mwyn mynd i’r afael â hyn argymhellodd yr adroddiad y dylid gwella sgiliau ysgrifennu disgyblion a chryfhau’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Dywedodd Anne Fenner, Pennaeth:

“Mae gan deulu’r ysgol a’r tîm staff gwych ac ymroddedig, sy’n gweithio’n ddiflino dros bob un disgybl o fewn eu gofal, uchelgeisiau mawr ar gyfer y dyfodol. Ein gobaith yw bod yr ystyriaethau cadarnhaol gan arolygwyr Estyn yn dangos i’r gymuned leol gymaint sydd gennym ni fel ysgol i’w gynnig i bob disgybl, beth bynnag fo’u hil, eu diwylliant a’u gallu.”

Ychwanegodd Mike Landers, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol:

“Rydym yn falch iawn bod Estyn yn cydnabod gwaith caled a diwydrwydd tîm Pen-y-Groes ac yn falch iawn o gymuned ein hysgol fach.”

Medd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd:

“Rwy’n gwybod pa mor wych yw’r gwaith y mae’r ysgol yn ei wneud, yn bennaf wrth hybu amrywiaeth a lles ymhlith ei holl ddisgyblion ac roedd yn cynhesu’r galon i ddarllen yr holl sylwadau cadarnhaol.”

Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Celyn canmoliaeth gan Estyn, am wneud cynnydd trawiadol yn eu dysgu eleni – er gwaetha’r pandemig.

Dywedodd yr arolygiad, a gynhaliwyd ym mis Mai, fod yr ysgol yn rhoi “dechrau cryf mewn bywyd” i’w disgyblion a chanfu fod athrawon, staff a llywodraethwyr yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth â rhieni, y gymuned a Chyngor Caerdydd i helpu disgyblion i ddatblygu’r sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn ystod eu bywydau.

Canfu hefyd fod gan yr ysgol, y mae 74% o’i 193 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a bron traean nad Saesneg yw eu prif iaith, arweiniad cryf gyda’r pennaeth yn gweithio gyda thîm ymrwymedig o athrawon a staff cymorth.

“Mae mwyafrif y disgyblion yn awyddus i ddysgu, yn ymddwyn yn dda iawn, yn dangos lefel uchel o barch at eu cyfoedion a’u oedolion yn yr ysgol ac mae ganddynt farn glir am yr hyn maen nhw eisiau ei gyflawni,” meddai’r adroddiad. “Maen nhw’n gweithio’n galed yn yr ysgol, gan ddyfalbarhau i gwrdd â’r heriau y mae eu hathro yn eu gosod… mae’r berthynas rhwng staff a disgyblion yn rhagorol.”

Dywedodd hefyd fod mwyafrif y disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n agored i niwed, y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd cryf o’u pwyntiau cychwyn. “Yn dilyn amhariad y pandemig a’r heriau y mae disgyblion a’r gymuned wedi’u hwynebu,” ychwanegodd, “mae’r cyflymiad yng nghynnydd y disgyblion ers Medi 2021 yn eithriadol o dda.”

Mae disgyblion hefyd yn mynegi barn gref wrth gefnogi cydraddoldeb hiliol a pharch at egwyddorion pobl eraill. Mae diwylliant diogelu cryf yn yr ysgol, tra bod disgyblion a rhieni’n dweud bod achosion o fwlio yn “eithriadol o brin”

Mae argymhellion Estyn yn cynnwys yr ysgol i barhau i ddatblygu arddulliau a chynnwys ysgrifennu’r disgyblion a “chryfhau trefniadau i hybu bwyta ac yfed yn iach disgyblion.”

Ar hyn o bryd, meddai, nid yw llywodraethwyr yn sicrhau bod trefniadau effeithiol er mwyn hybu arferion bwyta ac yfed yn iach yn y disgyblion. “Mae disgyblion yn mwynhau gwneud bwydydd iach yn y clwb coginio ond yn rhy aml maen nhw’n dod â diodydd a byrbrydau nad ydyn nhw’n iach i’r ysgol,” ychwanegodd.

“Maen nhw’n dysgu darllen a deall y wybodaeth sydd ar labeli bwyd, gan ystyried a yw eitemau’n addas ar gyfer ffordd iach o fyw. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn cymhwyso’r wybodaeth hon i wneud dewis iach wrth fwyta ac yfed.”

Meddai pennaeth Bryn Celyn Elizabeth Keys:

“Mae’r ysgol wedi dod mor bell ac wedi gwneud cynnydd da iawn ers ei harolygiad diwethaf. Rwy’n hynod falch o ymdrechion disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni wrth wneud ein hysgol yn lle mor wych i ddysgu a thyfu.”

Ychwanegodd Mark Perrins, is-gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol:

“Mae Llywodraethwyr Bryn Celyn yn falch iawn gyda chanlyniad yr Arolygiad. Mae’r ymroddiad a’r gwaith caled sydd wedi’i ddangos gan y staff addysgu wedi bod yn eithriadol a byddwn yn parhau i wasanaethu cymuned Bryn Celyn.”

Meddai y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd: “Mae’n amlwg o’r adroddiad bod Bryn Celyn yn ysgol wych ac mae llu o bethau cadarnhaol i ddod allan, yn enwedig y berthynas ragorol sy’n bodoli rhwng yr athrawon a’u disgyblion.”

%d bloggers like this: