04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canmoliaeth i Ysgol Llangyfelach gan arolygwyr Estyn

MAE Ysgol Gynradd Llangyfelach yn Abertawe wedi derbyn marciau llawn gan arolygwyr sydd wedi canmol ei hamgylched tawel a chefnogol, lle mae plant yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel.

Roedd tîm o Estyn, a oedd yn cynnwys tri arolygwr, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Llangyfelach ym mis Mai, ac mae canlyniadau eu harolygiad newydd gael eu cyhoeddi.

Dywedon nhw fod staff ar draws yr ysgol yn gweithio’n galed i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion yn eu gwaith a’u datblygiad emosiynol a chymdeithasol.

Dywed yr adroddiad:

“Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da ar draws yr ysgol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Mae ffocws cryf ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ym mhob dosbarth, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ac mae athrawon a staff cefnogi’n gweithio’n dda gyda’i gilydd i sicrhau bod disgyblion yn cyflawni’n dda wrth ddefnyddio’r sgiliau hyn.

“Mae ymddygiad drwy’r ysgol yn ganmoladwy. Mae bron pob disgybl yn falch o’i ysgol ac yn dangos agwedd cadarnhaol at ei waith.”

Dywedodd yr arolygwyr fod gan y Pennaeth, Lee Burnell, weledigaeth gref ar gyfer yr ysgol a’i fod yn cael ei gefnogi’n dda gan ei uwch dîm a’i gydweithwyr.

Mae llywodraethwyr yn gweithio’n dda gyda’r tîm arweinyddiaeth i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Meddai’r Pennaeth, Mr Burnell:

“Rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod cyflawniadau cadarn

%d bloggers like this: