03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ochr yn ochr â’r tair prif dref, mae rhaglen fuddsoddi a chymorth yn cael ei darparu i gefnogi twf 10 tref farchnad wledig.

Mae cynlluniau pwrpasol yn cael eu datblygu er budd trefi ac ardaloedd cyfagos Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf. Cyllidir y gwaith o ddatblygu’r cynlluniau twf yn rhannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Adfywio:

“Mae’n gyfnod cyffrous i ganol ein trefi ledled Sir Gâr. Rydyn ni’n cydnabod, yn yr un modd â threfi tebyg ledled y DU, fod dirywiad cyson wedi bod ac yn benderfynol o osod sylfeini ar gyfer newid.

“Drwy amrywiaeth o ymyriadau wedi’u targedu, ein nod yw creu canol trefi sy’n fwy cynaliadwy a sicrhau bod pob un yn unigryw.

“Mae’r newidiadau hyn eisoes yn dechrau digwydd, a bydd pobl yn gweld y gwahaniaeth.

“Beth sydd ei angen arnon ni yw bod pobl yn cefnogi canol eu trefi a’u masnachwyr lleol – rydyn ni’n gwybod bod y rhyngrwyd yn gyfleus, ond mae pob person sy’n ymweld, yn siopa, yn bwyta allan ac yn mwynhau eu hamser hamdden yng nghanol eu tref yn helpu’r dref honno i oroesi.”

%d bloggers like this: