03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canolbwynt deildy newydd yn cael ei chefnogi gan Farchnad Abertawe

BYDD ymwelwyr â Marchnad Abertawe’n gallu cymdeithasu wrth fwynhau cynnyrch ffres a bwyd a diod flasus a brynwyd yn y farchnad mewn canolbwynt sydd wedi’i greu o’r newydd yn y cyrchfan arobryn hwn.

Mae cannoedd o breswylwyr a masnachwyr wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad i gael dweud eu dweud am opsiynau dylunio i wella’r ardal ganolog bresennol.

Maent wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer ardal â thema deildy i bobl gwrdd, bwyta a threulio amser o ansawdd fel rhan o fuddsoddiad cyffredinol gwerth £1m i wella cyfleusterau a rhoi consesiynau rhent i fasnachwyr yn sgîl COVID.

Yn dilyn adborth, caiff peth newidiadau eu gwneud i’r cynigion  gwreiddiol sy’n cynnig gosod seddau,  ardal werdd a nodwedd arbennig 7.5m o uchder i adlewyrchu to gwydr eiconig y farchnad.

Mae sylwadau cadarnhaol yn cynnwys disgrifiadau o’r dyluniad fel steilus, hyfryd a bywiog. Croesawyd y planhigion a’r thema werdd a dywedodd pobl fod dyluniad y deildy’n fwy addas i bensaernïaeth y farchnad a’r modd y’i defnyddir na’r opsiwn dylunio arall a gyflwynwyd. Roedd addasrwydd y lle ar gyfer digwyddiadau ac arddangosfeydd yn thema arall a gododd dro ar ôl tro lle cafwyd sylwadau cadarnhaol.

Mae’r ardal a fydd yn cael ei galw’n Gardd y Farchnad/The Market Garden, y cynnwys byrddau, seddau ac ardaloedd chwarae i blant bach ynghyd â WiFi, mannau gwefru ffonau drwy USB, pwyntiau pŵer, gorsaf ddŵr i gŵn a chyfleusterau ailgylchu/sbwriel. Caiff ei rheoli gan aelod dynodedig o staff y farchnad drwy gydol y dydd i sicrhau ei bod yn cael ei chadw mewn cyflwr da ac ar gyfer y diben bwriadedig.

Bydd yn ddigon hyblyg i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys marchnadoedd arbenigol fel y farchnad feganaidd boblogaidd, arddangosfeydd ac arddangosiadau.

Bydd atyniadau presennol y farchnad, fel y rotwnda gocos a’r stondinau parhaol o’i chwmpas, yn aros lle maent, ni chaiff yr aleon eu culhau a chaiff stondin newydd ei chreu i fasnachwyr achlysurol presennol.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

“Roedd bron 400 o siopwyr a masnachwyr wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac maent wedi’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn.

“Rydym wedi gwrando’n ofalus ar yr adborth o’r ymgynghoriad hwn ac wedi diwygio’r cynlluniau i ystyried barn nifer bach o fasnachwyr a’u cwsmeriaid a fynegodd bryderon am y cynigion, gan gynnwys lled yr aleon a llinellau gwelediad o gwmpas i farchnad i’w stondinau.

“Rydym hefyd wedi ymateb yn uniongyrchol i’r masnachwyr y mae eu stondinau ger yr ardal newydd ac sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad. Hoffem ddiolch iddynt am eu mewnbwn.

“Er bod y farchnad ar agor ar hyn o bryd ar gyfer siopa hanfodol yn unig, y gobaith yw caiff y cyfyngiadau eu codi cyn bo hir a gall masnachwyr eraill ailgychwyn eu busnes.

“Mae Cyngor Abertawe’n benderfynol o barhau i’w cefnogi i adfer a gweld y farchnad yn mynd o nerth i nerth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Ariennir y prosiect gan Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a’r cyngor.

%d bloggers like this: