10/07/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Canolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu newydd yn Abertyleri

BYDD Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn agor ei Ganolfan Gwstraff Cartrefi ac Ailgylchu Roseheyworth (HWRC) ddydd Llun 19 Ebrill.

Roseheyworth yw’r ail safle gwastraff cartrefi ac ailgylchu ym Mlaenau Gwent ac mae wedi ei leoli ym Mharc Busnes Roseheyworth, Abertyleri.

Bydd y safle yn cynnig ystod llawn o wasanaethau ailgylchu i dderbyn eitemau fel nwyddau trydanol, batrisi gwastraff gerddi, cardfwrdd, paent, nwyddau gwyn fel rhewgelloedd, oergelloedd a pheiriannau golchi, ynghyd â charpedi a matresi.

Ceir manylion llawn sut i drefnu apwyntiad a chanllawiau ar gyfer eich ymweliad ar gael ar wefan y Cyngor:  https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/visit-a-recycling-centre/

O haf 2021 ymlaen, bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys siop ail-ddefnydd a weithredir gan Wastesavers, lle gall preswylwyr gyfrannu eitemau sydd mewn cyflwr da ac heb ddiffygion fel y gall rhywun arall eu prynu a’u hailddefnyddio.

Cafodd cyfyngiadau a mesurau diogelwch eu rhoi ar waith. Gwneir pob ymweliad drwy apwyntiad yn unig. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff ymweliadau i’r ganolfan eu trin mewn ffordd ddiogel a strwythuredig i ddiogelu preswylwyr a gweithwyr ac i gydymffurfio gyda’r cyngor presennol ar bellter cymdeithasol.

Bydd yn hanfodol archebu ymlaen llaw a bydd angen i breswylwyr fod â thystiolaeth o archebu gyda nhw. Gall methu gwneud hynny olygu y cânt eu troi bant.

Oherwydd y mesurau pellter cymdeithasol sydd ar waith, ni all ein staff helpu i ddadlwytho na chario eitemau mewn unrhyw amgylchiadau. Gall ail aelod o’ch aelwyd fynychu i gynorthwyo i symud a gwaredu ag eitemau swmpus ond dim ond pan fydd gweithiwr safle wedi dweud ei bod yn ddiogel gwneud hynny y cânt adael y car.

Ni ddylai preswylwyr nac aelodau o’u haelwyd sydd â symptomau o COVID-19 ymweld â’r safle.

Bydd yr un rheolau safle yn weithredol yn HWRC Roseheyworth ag yn HWRC Cwm Newydd.

Mae HWRC Roseheyworth ar agor  rhwng 9am – 5.30pm drwy’r flwyddyn, chwe diwrnod yr wythnos, ar gau ar ddyddiau Mawrth.

Mae HWRC Cwm Newydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10am – 4.30pm.
O 1 Mai 2021 ymlaen, bydd y safle ar agor rhwng 9am – 5.30pm drwy’r flwyddyn, chwe diwrnod yr wythnos, ar gau ar ddyddiau Iau.

%d bloggers like this: